Y ddarlledwraig Elinor Jones yn dod yn Uchel-Siryf Dyfed
- Cyhoeddwyd

Ddydd Sadwrn cafodd y ddarlledwraig Elinor Jones ei gwneud yn Uchel-Siryf Dyfed gyda'r seremoni yn gyfan gwbl yn Gymraeg am y tro cyntaf.
Nid hi yw'r fenyw gyntaf yn y byd darlledu i wneud y rôl gyda chyn pennaeth BBC Bangor, Marian Wyn Jones yn Uchel-Siryf yng Ngwynedd.
Ganrifoedd yn ôl yr uchel siryf mewn gwirionedd oedd barnwr y llys. Roedd yn cadw trefn yn y sir, yn carcharu pobl, yn casglu trethi a hyd yn oed yn enwebu pobl i fynd i'r senedd.
Erbyn heddiw mae'r rôl wedi newid a merched hefyd yn medru cael eu dewis. 55 ohonyn nhw sydd yn bodoli ar draws Cymru a Lloegr gyda'r gwaith yn para blwyddyn.
"Bydde pobl yn dweud bod e yn seremoniol yn bennaf," meddai Elinor Jones. "Ond mi fydd y gwaith hefyd yn golygu cadw cysylltiad agos gyda'r gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y rhai brys a chodi arian ar gyfer elusennau".
Cymreigio'r swydd
Tra bod mwyafrif o bobl sydd yn cael eu henwebu yn cael gwybod tair blynedd o flaen llaw, chwe blynedd ydy'r drefn yn Nyfed.
Ar raglen Dylan Jones mi oedd Elinor Jones yn dweud iddi bendroni am dipyn cyn cytuno. "A'th Lyn a fi trwy ambell botel o win i feddwl!"
Ond ar ôl ymchwilio i gael gwybod mwy am y swydd mae wedi derbyn. Un rheswm meddai oedd ei bod eisiau cyflwyno Cymreictod i'r rôl.
"Mae'n rhaid i ni ddod mas o'n ghettos bach Cymraeg, Cymreig a gwneud y pethau ma achos mae'r iaith Gymraeg, mae'n rhaid iddi gael ei gweld ymhob twll a chornel o'n cymdeithas ni."
Mae uchel siryf yn atebol i'r teulu brenhinol. Ond mae Elinor Jones, sydd yn adnabyddus fel cyflwynwraig deledu, yn dweud nad yw hyn yn mynd i'w hatal rhag gwneud y rôl.
'Pricio'r enwau'
"Ta beth wyt ti yn gwneud yn y byd ma, mae'r frenhiniaeth yno. Ydw fydda'i yn gorfod dweud hyn a hyn i'r goron ac yn y blaen. Ond mae pobl fel barnwyr, pawb sydd yn gwneud y math yna o swyddi yn gorfod gwneud hynny i'r goron."
Mae'r frenhines yn 'pricio enwau' y rhai sydd wedi eu henwebu. Hen draddodiad yw hyn meddai Elinor Jones ar ôl i swyddogion ofyn flynyddoedd yn ôl os oedd hi'n hapus gyda'r enwau.
"Odd hi yn y fan a'r lle yn gwneud ei petit point neu yn gwynio neu rywbeth. Pan ofynwyd iddi nath hi pricio ei bys.. A dyna le mae'r frenhines yn 'pricio dy enw di' yn dod ohono fe."
Mae'n rhagweld y bydd yna ddipyn o waith teithio i wneud o gwmpas y sir ond does na ddim tal na chostau am wneud y swydd.
"Y perk mawr yw bod chi'n dod i adnabod pobl, cwrdd â phobl falle fyddech chi ddim yn gwneud fel arfer."
Ond heblaw am gyfarfod pobl newydd mae hefyd wedi "dysgu lot am felfed!" gan fod menywod yn medru creu eu gwisgoedd eu hunain.
"Mae'r wisg yn un grand gyda ffrils a felfet a'r holl ddillad wedi ei gwneud yng Nghaerfyrddin. Mae hyd yn oed yr hat wedi ei gwneud yn Llandeilo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2011