Tymor addawol newydd i Forgannwg?

  • Cyhoeddwyd
MorgannwgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd Morgannwg lwyddiant yn y gystadleuaeth YB40 undydd, gan gyrraedd y rownd derfynol

Roedd 2013 yn flwyddyn gymysg i Glwb Criced Morgannwg, ond mae newidiadau wedi digwydd yn y tîm rheoli dros y gaeaf gyda'r nod o gael blwyddyn well yn 2014.

Gorffennodd y sir o Gymru yn waelod ond un yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd, ond fe wnaethon nhw gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth 40 Pelwad Yorkshire Bank yn Lord's.

Er mai colli o 87 rhediad wnaeth Morgannwg, roedd nifer yn gweld y diwrnod fel un o'r arwyddion cyntaf o adfywiad hir-ddisgwyliedig.

Y gwirionedd yw bod Morgannwg yn dîm gwell nag y mae eu safle yn y bencampwriaeth yn awgrymu, ond bod diffyg y natur ddidrugaredd yna sy'n perthyn i enillwyr.

Yn aml roedden nhw'n dibynnu ar gyfraniadau unigolion yn hytrach na gweithio fel tîm, a newid hynny oedd y nod wrth benodi rheolwyr newydd.

Morris a Radford

Penodi Hugh Morris fel prif weithredwr yn lle Alan Hamer oedd y cam cyntaf, gyda Toby Radford yn cymryd lle Matthew Mott fel hyfforddwr yn fuan wedi hynny.

Mae llwyddiant Morris fel un o fatwyr gorau Morgannwg am flynyddoedd ynghyd â'i lwyddiant yn ystod 16 mlynedd yn gweithio gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn addawol, ac mae'n benderfynol o lwyddo i weddnewid ei glwb cartref.

Ers penodi Toby Radford fel prif hyfforddwr i weithio gyda Steve Watkin a Robert Croft, mae Morris wedi cyflwyno gwerthoedd newydd a ddylai wella perfformiadau'r tîm.

Dim ond naw gwaith y llwyddodd batiwr o Forgannwg i sgorio 100 y tymor diwethaf, a Murray Goodwin - oedd yn 41 oed - gafodd bedwar ohonyn nhw.

Mae'r clwb yn gobeithio y bydd un chwaraewr newydd yn gwella'r record yna wedi iddyn nhw arwyddo Jacques Rudolph - gynt o Dde Affrica - ar gytundeb dwy flynedd.

Er nad yw ar gael ar gyfer gêm agoriadol Morgannwg, mae disgwyl i Rudolph agor y batio gyda naill ai Will Bragg neu Gareth Rees, ac mae enwau fel Chris Cooke, Jim Allenby a Mark Wallace yn debyg o gryfhau'r batio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fe gipiodd Michael Hogan dros 100 wiced y tymor diwethaf

Amserlen heriol

Michael Hogan fydd yn arwain y bowlio unwaith eto yn dilyn tymor gwych yn 2013, pan gymrodd dros 100 wiced.

Er na fydd Michael Reed ar gael oherwydd anaf am o leiaf ddeufis, mae digon o fowlwyr eraill yn cystadlu am le yn y tîm gan gynnwys Huw Waters, Graham Wagg, Jon Glover, Will Owen a'r llanc addawol Ruaidhri Smith.

Mae Andrew Miller - cyn fowliwr Sir Warwick a Sussex - hefyd wedi bod yn addawol iawn yn ystod y paratoadau am y tymor newydd.

Mae'r tymor newydd yn mynd i fod yn heriol. Mae mwy o gemau T20 y tymor hwn ac fe fydd cystadleuaeth 50 pelawd yn cymryd lle'r un 40 pelawd.

Fe fydd yr amserlen yn llawn a chymhleth i bob un o'r 18 sir, ac fe angen i Forgannwg ddefnyddio'r holl adnoddau sydd wrth law er mwyn llwyddo.

Bydd y tymor yn dechrau o ddifri gyda thaith i'r Oval i herio Surrey ym Mhencampwriaeth y Siroedd, gyda'r diwrnod cyntaf o bedwar yn dechrau fore Sul, Ebrill 6, am 11:00yb.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol