Dathlu pen-blwydd am 24 awr
- Cyhoeddwyd

Mewn ymdrech arbennig i godi arian i'r orsaf, mae Radio Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi darlledu am 24 awr am y tro cyntaf erioed o'u stiwdio newydd ar Ebrill 12.
O 10:00yb roedd sioeau byw gyda gwesteion arbennig, a stondinau a cherddoriaeth fyw yng nghyntedd yr ysbyty.
Roedd y digwyddiad yn cyd-fynd â phen-blwydd yr orsaf yn 38 oed, ac mae un sy'n gwirfoddoli yno ers 28 o flynyddoedd bellach yn gadeirydd ar Radio Ysbyty Gwynedd.
Stiwdio newydd
Dywedodd Derec Owen: "Fe 'nes i a'r wraig wirfoddoli yn 1986 pan oedd o'n Radio C&A (sef gorsaf hen Ysbyty Môn ac Arfon) yn lle mae archfarchnad Morrison's heddiw.
"Hen garafán oedd yn gollwng dŵr oedd cartre'r orsaf bryd hynny, ond fe symudon ni'n fuan wedyn i Ysbyty Gwynedd ac wedi mwynhau'r cyfnod ers hynny'n fawr iawn.
"Ymateb i gais wnaethon ni ac rydan ni'n dal wrthi rŵan yn chwilio am wirfoddolwyr ac arian wrth gwrs.
"Rydan ni'n 'state of the art' bellach wedi cael stiwdio newydd sbon. Vinyls oedd pob dim ers talwm a recordio cyfweliadau ar dâp, ond mae pob dim ar y cyfrifiadur erbyn hyn ac yn hwylus iawn."
Llu o wrandawyr
Mae gan yr orsaf tua 20 o aelodau, gyda phob un yn wirfoddolwyr, ac mae'n dibynnu'n llwyr ar roddion a gweithgareddau codi arian i dalu am eu ffioedd trwyddedu ac offer i gadw'r orsaf i fynd.
Ychwanegodd Mr Owen: "Peidiwch â gofyn beth all cymdeithas wneud i chi, ond beth fedrwch chi 'neud i gymdeithas.
"Mwya'n byd mae rhywun yn mynd i'r byd yma, y mwya' o bleser mae rhywun yn ei gael yn cyfarfod â phobl a chymeriadau lliwgar.
"Un o'r cyflwynwyr, Derrick Edwards, sydd wedi trefnu'r digwyddiad codi arian gwych hwn, a hoffwn ddiolch i Derrick am ei ymdrech a'i waith caled ac i bob un o'r cyflwynwyr am eu cefnogaeth barhaus."
5,232 o oriau
Mae'r orsaf hefyd yn dathlu ffigyrau gwrando trawiadol yn ddiweddar. Yn ôl y cwmni sy'n mesur oriau gwrando o fewn yr ysbyty, fe gafodd Radio Ysbyty Gwynedd 5,232 o oriau gwrando rhwng Mawrth 1 a Mawrth 20.
Dros yr un cyfnod, 3,474 o oriau o wrando a gafodd gorsaf fwyaf poblogaidd Prydain sef BBC Radio 2.
Roedd cyflwynwyr Radio Ysbyty Gwynedd yn casglu arian cyn y darllediad 24 awr ac ar y dydd.
Cytunodd Banc Santander i fod yn rhan o'r digwyddiad ac maen nhw wedi addo cyfrannu swm sy'n cyfateb i'r swm gododd yr orsaf yn y digwyddiad.
Straeon perthnasol
- 4 Hydref 2008
- 14 Rhagfyr 2007