Carchar am gyflenwi cyffuriau yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Darganfod arianFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Daeth swyddogion o hyd i werth £6000 o gyffuriau a £10,000 mewn arian parod ar ôl archwilio tri chyfeiriad yn ardal Grangetown o'r brifddinas.

Mae dyn o Gaerdydd wedi ei garcharu am naw mlynedd a hanner yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau am gyflenwi cyffuriau.

Cafodd Shakti Singh ei arestio yn dilyn ymchwiliad wyth mis gan Heddlu De Cymru.

Daeth swyddogion o hyd i werth £6,000 o gyffuriau a £10,000 mewn arian parod ar ôl archwilio tri chyfeiriad yn ardal Grangetown yn y brifddinas.

Cafodd Keith McNally ei ddedfrydu i dair blynedd a hanner o garchar ar ôl iddo bledio'n euog yn gynharach i gyflenwi heroin.

Olion bysedd

Mewn fflat yn Neville Court yn Grangetown, lle'r oedd Shakti Singh a chyd-droseddwyr yn prosesu cyffuriau, fe ddaeth yr heddlu o hyd i olion bysedd Singh ar restr o enwau ac ar becynnau menig rwber. Cafodd cyflenwad sylweddol o gocên, crac cocên ac arian ei ddarganfod yno hefyd.

Daeth yr heddlu o hyd i £7,100 mewn arian parod mewn cyfeiriad arall yn Grangetown, ac mewn fflat lle roedd Keith McNally yn byw roedd gwerth £1,000 o heroin wedi ei ddarganfod wedi ei becynnu yn barod i'w werthu.

Yn ystod chwilio'r fflat fe ddaeth Singh yno ac fe gafodd y dyn 26 oed ei arestio ar Ebrill 10, 2013.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Shakti Singh ei ddedfrydu i naw mlynedd a hanner o garchar

1000 o alwadau

Wrth astudio galwadau ffôn symudol, fe ddarganfuwyd fod Singh a McNally wedi ffonio ei gilydd dros 1,000 o weithiau yn ystod cyfnod o bedair wythnos.

Roedd defnyddwyr crac cocên a heroin ar hyd Caerdydd wedi deialu'r rhiff ffôn er mwyn prynu cyffuriau.

Cafodd Singh ei ganfod yn euog yn gynharach eleni o ddosbarthu arian yn anghyfreithlon yn ogystal â bod ym meddiant cocên, crac cocên a heroin gyda'r bwriad o gyflenwi'r cyffuriau hyn i eraill.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Tim Jones: ''Roedd Singh yn ddeliwr cyffuriau blaenllaw oedd yn gweithredu ar draws Caerdydd.

''Fe welodd y llys trwy ei ddagrau a'i gelwyddau ac fe fydd nawr yn treulio amser maith mewn carchar am bedlera cyffuriau dinistriol yn y gymuned.''