Dirwy i deulu am bysgota cregyn bylchog yn anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd

Mae pysgotwr wedi cael dirwy o £42,000 yn Llys y Goron Abertawe am bysgota cregyn bylchog yn anghyfreithlon ym Mae Ceredigion.
Fe gyfaddefodd Mark Powell, 44 oed o Penryn yng Nghernyw, i 14 trosedd o bysgota mewn ardal anghyfreithlon ac 14 trosedd o beidio â gwneud datganiadau glanio.
Fe gafodd tri aelod o'i deulu - ei rieni Andrea a Clinton a'i wraig Lisa Powell ddirwy o £1000 yr un.
Cafodd pysgota am gregyn bylchog ei wahardd mewn rhannau o Fae Ceredigion yn 2010 ac fe all y cregyn werthu am £15 - £30 y cilo, yn amrywio o dymor i dymor.
Trafodaeth
Bu Powell yn pysgota'n anghyfreithlon yn ei long The Golden Fleece II rhwng Hydref 2011 a Mawrth 2012.
Dywedodd James Subbiani ar ran yr erlyniad fod swyddogion morwrol wedi mynd ar fwrdd ei gwch ar Fawrth 20, 2012, wedi trafodaeth dros y radio pan gyfaddefodd y pysgotwr ei fod yn pysgota am gregyn bylchog.
Cysylltodd y swyddogion morwrol gyda swyddogion pysgodfeydd Llywodraeth Cymru cyn penderfynu cludo'r cwch i Aberdaugleddau.
Dywedodd Mr Subbiani fod y system adnabod cychod ar y môr wedi ei diffodd ar y Golden Fleece II pan gyrrhaeddodd y cwch ddyfroedd Cymreig.
Fe ofynnwyd i Powell droi'r system adnabod cychod ymlaen i ddangos i swyddogion Llywodraeth Cymru ei fod heb wneud dim o'i le. Mewn ymateb fe ddywedodd Powell: ''Chi'n gwybod na alla i wneud hynna, tydw i ddim yn gwneud dim byd nad ydi cychod eraill yn ei wneud.''
'Capten profiadol'
Wrth ddedfrydu Powell fe ddywedodd y Barnwr Huw Davies: ''Mae'n rhaid i mi eich dedfrydu am ddefnyddio cwch ar gyfer pysgota am gregyn bylchog mewn ardal o Fae Ceredigion lle nad oedd hawl gwneud hyn dan orchymyn 2010.
''Rydych yn gapten profiadol, yn adnabod y dyfroedd hynny'n dda, ac mae tystiolaeth eich bod yn adnabod y rheolau'n dda. Tydi'r ffaith fod pobl eraill wedi torri'r rheolau hyn ddim yn esgusodi eich penderfyniad chi i wneud hynny'', meddai.
''Rwyf yn derbyn fodd bynnag fod eich record droseddu yn gyfyng iawn, sef un drosedd sengl, a doedd y drosedd ddim y fwyaf difrifol o'i math ac mae hyn wedi ei adlewyrchu yn y ddirwy o £1,500 (i bob trosedd).''
Cafodd Powell ei orchymyn i dalu £3000 am bob pâr o'r 14 trosedd oedd yn gyfanswm o £42,000, a £8000 tuag at gostau'r erlyniad. Fe fydd yn rhai iddo dalu'r ddirwy o fewn blwyddyn.