Galw am rybuddion o beryglon traeth yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi galw am fwy o rybuddion i dwristiaid ynglyn â pheryglon traeth Mochras yng Ngwynedd ar ôl i fachgen 16 oed foddi yno ym mis Gorffennaf y llynedd.
Mewn cwest yng Nghaernarfon i farwolaeth Reece Cook o Wesley Way, Tamworth, fe ddywedodd y Crwner Dewi Pritchard-Jones: "Yn anffodus tydi'r achos yma ddim yn anarferol. Rydw i wedi cael sawl achos fel hyn yn y gorffenol o Fochras (Shell Island)."
Ddydd Iau, clywodd y cwest fod y bachgen wedi dweud wrth ei ffrindiau i aros yn y dŵr am ei fod yn cael hwyl, ychydig cyn iddo fynd i drafferthion.
Fe ddyfarnodd y cwest fod Reece Cook wedi marw trwy ddamwain ar ôl cael ei ddarganfod yn y dŵr ym Mochras.
Marwolaeth trwy ddamwain
Dywedodd y crwner fod achosion o'r fath yn digwydd i bobl ifanc oedd yn mwynhau tonnau mawr y traeth.
"Un o nodweddion y traeth yna ydi achos nad ydi o'n draeth tywodlyd cyffredin, mae na gerrig mewn rhai mannau, ac effaith hyn i gyd ydi creu llif llanw rhwng y nodweddion gwahanol," meddai.
"Mae na donnau eithaf mawr yno ac fe all is-gerynt fod yn broblem."
"Wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd rydw i wedi cael nifer o achosion o bobl yn boddi ar draethau ond dwi'n siwr o fod wedi cael mwy yn y lleoliad penodol yma.
"Dwi'n credu y dylid cysidro rhybuddio'r cyhoedd am beryglon y traeth penodol hwn o achos pa mor aml mae pobl yn boddi yno," meddai.
"Roedd Reece yn mwynhau y tonnau mawr - doedd o heb sylweddoli'r peryglon."