Pennaeth Ysgol Brynrefail yn dychwelyd i'w waith
- Cyhoeddwyd
Bydd pennaeth Ysgol Brynrefail yn Llanrug, Gwynedd, yn dychwelyd i'w waith ddydd Llun ac o ganlyniad mae cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol wedi ymddiswyddo.
Cafodd y pennaeth, Eifion Jones, ei wahardd o'i waith ym mis Rhagfyr 2013 tra bod dau ymchwiliad yn cael eu cynnal.
Fis diwethaf, dywedodd Cyngor Gwynedd: "Gallwn gadarnhau bod yr ail ymchwiliad ffurfiol i gŵyn yn erbyn ymddygiad aelod o staff Ysgol Brynrefail wedi ei gwblhau ac nad oes rheswm i'r ataliad o'r gwaith barhau.''
Pleidlais o ddiffyg hyder
Datgelodd BBC Cymru fod llywodraethwyr yr ysgol wedi cymeradwyo pleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Jones yr un pryd y gwnaeth y cyngor godi'r gwaharddiad arno.
Ym mis Tachwedd 2012, barnodd Estyn fod angen" gwelliant sylweddol" ar yr ysgol.
Adeg y bleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn y pennaeth, esboniodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, y Canon Robert Townsend, wrth BBC Cymru nad oedd statws swyddogol i'r bleidlais o ddiffyg hyder, ond ei bod wedi adlewyrchu teimladau'r llywodraethwyr ar y pryd.
Dywedodd: "Mae'r bleidlais o ddiffyg hyder yn mynegi pryder ynghylch gallu Mr Jones i helpu'r ysgol i'w chael ei hun allan o'r categori mae hi ynddo ar hyn o bryd, hynny yw angen gwelliant sylweddol, ac mae'r cynnig yn siarad drosto'i hun ynghylch teimladau'r llywodraethwyr ar y mater."
Deiseb
Wedi'r cyfweliad gyda Mr Townsend dechreuwyd deiseb ar wefan gymdeithasol Facebook yn cefnogi Mr Jones a hyd yma mae dros 1,200 o bobl wedi ei "hoffi" ar y wefan.
Ddydd Iau cadarnhaodd Cyngor Gwynedd y byddai Mr Jones yn dychwelyd i Ysgol Brynrefail ar Ebrill 7 ac y byddai'n derbyn y gefnogaeth angenrheidiol yn yr un modd ag y byddai unrhyw aelod o staff yn cael ei gefnogi wedi cyfnod i ffwrdd o'r gweithle.
Hefyd cadarnhaodd y cyngor fod cadeirydd y llywodraethwyr, Robert Townsend, wedi ymddiswyddo, ac y byddai corff llywodraethol Ysgol Brynrefail yn penodi cadeirydd mewn cyfarfod yr wythnos nesa'.