Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Os 'da chi'n meddwl bod y drafodaeth am annibyniaeth yr Alban ychydig yn amherthnasol i ni yma yng Nghymru, gaf i awgrymu eich bod chi'n darllen erthygl angerddol Richard Wyn Jones yn y rhifyn diweddaraf o Barn.
Dywed y dylai unrhyw un sy'n meddu'r diddordeb lleiaf yn nyfodol y wladwriaeth yr ydym yn byw ynddi - a lle Cymru yn y wladwriaeth honno - ddarllen dogfen bolisi Comisiwn Datganoli'r Blaid Lafur yn yr Alban.
O, ym, iawn, ond diolch byth mae Richard wedi ei darllen ar ein rhan, ac mae'n dangos yn glir meddai nad yw unoliaethwyr y blaid yn malio'r un botwm corn am Gymru.
Drwy alw am gadw trefn cyllido Fformiwla Barnett, sydd yn ôl Richard yn tanariannu Cymru'n ddifrifol, mae buddiannau Cymru'n cael eu haberthu er budd gwleidyddol Unoliaethwyr Albanaidd.
Nid yw'r rhan hon o'r Undeb a elwir yn Gymru'n cyfrif dim oll. Tybed, mae'n holi, oes posibilrwydd o gwbl y bydd S4C yn codi ei golygon uwchlaw'r chwaraeon a'r nostalgia arferol i gynnig persbectif Cymreig ystyrlon ar y drafodaeth?
Newsnight Cymru
A draw ar wefan Newsnight Cymru, mae'r galw am sefydlu rhaglen nosweithiol yn trafod y newyddion yn parhau.
Gyda'r newyddion fod Carwyn Jones yn bleidiol i'r syniad, Cerith Rhys Jones sy'n blogio'r wythnos hon, gan ddweud bod cael rhaglen fel hon yn fwy na moethusrwydd, yn fwy nag 'add-on' bach yr hoffem ei gael.
Mae'n ofynnol os ydym am fod yn wlad aeddfed, fodern, flaengar. Mam fach, meddai, os nad oes 'da ni raglen fel Newsnight sy'n canolbwyntio arnom ni'n hunain, wedyn Duw a'n helpo ni!
Blwyddyn Rob
Blog bach difyr sydd wedi dechrau'n ddiweddar yw Blwyddyn Rob o eiddo Robin Hughes.
Dros y flwyddyn nesaf, bydd Rob yn byw yng nghanol cymoedd y de heb ddefnyddio Saesneg fel cyfrwng cyfathrebu ar lafar nac yn ysgrifenedig tu fas i'r gweithle.
Ond ar ôl cychwyn yn llawn hyder, erbyn yr ail flogiad, dridiau yn ddiweddarach, mae'n gweld y problemau sydd o'i flaen - embaras wrth sgwrsio â Nathan yn Gwent MOT, sy'n siarad ag e'n araf a chlir, fel pe bai'n dwrist Saesneg yn siarad â gweinydd yn Sbaen, a gorfod cuddio rhag ei gydnabod yn y pentref.
Ond mae wedi llwyddo i brynu nwyddau yn y siop leol ac archebu tecawe, felly mae'n hyderus o hyd y bydd yn gallu newid agweddau pobl.
Er y cuddio, dyw Rob ddim am fod yn feudwy, felly fydd hi'n ddiddorol gweld sut fydd yr arbrawf yn datblygu dros y misoedd nesaf.
Eisteddfod yr Urdd
Yn ôl Vaughan Hughes yn Barn, dyw hi ddim wedi bod yn flwyddyn dda hyd yma i'r Urdd.
Ar ôl miri'r MBE ddechre mis Ionawr, dyma'r Urdd yn mynd ati i dorri calonnau nifer o blant bach Cymru drwy wrthod yn lân a chaniatáu iddyn nhw gystadlu yn yr Eisteddfod.
Y rheswm oedd bod disgwyl am y tro cyntaf eleni i gystadleuwyr gofrestru arlein. Bu trafferthion, ac ni lwyddodd pawb - dyna sy'n digwydd meddai pan gyflwynir trefn newydd.
Ond roedd yr Urdd mor ddidostur o haearnaidd fel ei bod yn well ganddyn nhw siomi'r plant na dangos mymryn o hyblygrwydd.
A thra ei fod wrthi, mae Vaughan yn gofyn oes rhaid cynnal eisteddfodau cylch a sir bob blwyddyn ar Sadyrnau gemau rygbi'r chwe gwlad?
Gŵyr pawb pa mor anodd ydi denu bechgyn yn arbennig i eisteddfota. Ydi'r mudiad o ddifri'n credu bod hwn yn arferiad doeth?
Go brin fyddai hwn yn gwestiwn a gâi ei drafod ar Newsnight, ond fel dywedodd rhywun rywdro, gwneud y pethau bach sy'n bwysig.
Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.