Mab fu farw wedi gadael 'llythyr ffarwél'

  • Cyhoeddwyd
Simon a Julie Brooks
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Julie Brooks bod ei mab, Simon, wedi gadael 'llythyr ffarwél'

Mae mam bachgen fu farw yn yr ysbyty wedi iddo adael 'llythyr ffarwél' wedi disgrifio ei fethiant i ymdopi gyda bwlio yn yr ysgol.

Bu farw Simon Brooks, 15, yn yr ysbyty ddydd Mawrth bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn ei gartref yn Ne Cymru. Mae amheuon ei fod wedi cymryd gorddos.

Dywedodd ei fam, Julie Brooks, wrth BBC Cymru bod ei mab wedi cael ei fwlio yn ei ysgol bresennol, Ysgol y Pant ym Mhontyclun, ac yn Ysgol Gyfun Treorci, yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r BBC wedi gofyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf a'r ysgolion ymateb i'r honiadau o fwlio.

Protest

Cynhaliodd nifer o ddisgyblion brotest i gefnogi Simon yn yr ysgol brynhawn Iau, gan weiddi ei enw.

Dywedodd Heddlu'r De fod swyddog wedi cael gwybod am y digwyddiad, ond bod yr ysgol wedi delio gyda'r sefyllfa.

Dywedodd Mrs Brooks ei bod hi'n synnu faint o gynllunio yr oedd Simon wedi ei wneud cyn ei farwolaeth ddydd Gwener, pan gafodd yr heddlu eu galw i'r cartref yn Nhonyrefail.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ond bu farw yn ddiweddarach yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

'Llythyr ffarwél'

Dywedodd hi fod ei 'lythyr ffarwél' wedi bod ar ffurff nodyn ar ei ffôn symudol, oedd yn cynnwys y geiriau: "Alla' i ddim diodde' hyn bellach".

Yn ôl y fam, roedd Simon wedi dweud wrth ddyn ambiwlans aeth ag ef i'r ysbyty: "Dwi'n cael fy mwlio".

Dywedodd hi fod Simon wedi gadael Ysgol Treorci ar ôl honiadau fod ymosodiad arno ar drên i'r ysgol. Doedd Simon ddim am gyhuddo neb.

Dywedodd ei fam ei fod wedi dioddef 18 mis o fwlio yn Ysgol Y Pant, gan gynnwys cael ei wthio, pobl yn cydio yn ei fag a sarhad llafar.

"Roedd wrth ei fodd gyda'r gwersi ac roedd ganddo griw gwych o ffrindiau, ond doedd rhai ddim yn gadael llonydd iddo amser egwyl a chinio," meddai Mrs Brooks.

'Lleihau'r boen'

Dywedodd y byddai ei mab yn erfyn arni bob nos Sul i beidio a'i yrru i'r ysgol, ac yn y gwyliau y byddai'n cyfri'r oriau a'r dyddiau tan iddo orfod mynd yn ôl.

Un diwrnod, naw mis yn ôl, aeth â gwin i Ysgol Y Pant a chafodd ei gosbi am dorri'r rheolau. Dywedodd ei fam ei fod wedi gwneud hynny i "leihau poen y bwlio".

Roedd Simon yn poeni, meddai, y byddai cwyno i'r ysgol yn gwneud y sefyllfa yn waeth.

Mae Mrs Brooks am i wersi gael eu dysgu wedi marwolaeth ei mab a dywedodd fod angen codi ymwybyddiaeth am fwlio.

Dywedodd ei bod wedi siarad gyda phennaeth Ysgol Y Pant, Mark Powell, ers marwolaeth ei mab, a'i bod am gadw "perthynas agored" gyda'r ysgol.

Roedd Mr Powell a'i staff wedi gweithio "yn galed iawn," meddai, ond bod ysgolion dan bwysau gan y llywodraeth ac "o dan y chwyddwydr".

Ar hyn o bryd dywedodd ei bod yn gadael i'r crwner wneud ei waith wedi marwolaeth Simon.

'Mewn sioc'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor RCT fod disgyblion Y Pant wedi gwisgo'r lliw piws ddydd Mercher fel arwydd o barch i Simon. Ychwanegodd y cyngor fod arbenigwyr cwnsela a seicolegwyr yn rhoi cyngor i ddisgyblion a rhieni.

Mewn datganiad cyn i Mrs Brooks siarad gyda'r BBC, dywedodd y pennaeth: "Rydyn ni gyd mewn sioc ac wedi ein tristáu gan farwolaeth Simon Brooks ac mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau.

"Rydyn ni yn yr ysgol a'r gymuned ehangach yn ei chael hi'n anodd deall ei farwolaeth sydyn a'n prif amcan ar hyn o bryd yw parchu dymuniadau ei deulu a rhoi cefnogaeth i'r disgyblion sydd wedi cael eu heffeithio."

Mae'r ddwy ysgol a'r cyngor wedi cael cais am sylw wedi cyfweliad Mrs Brooks ond nid ydynt wedi ymateb hyd yma.

Mae gwefan Y Pant yn cyhoeddi ei bolisi bwlio: "Rydyn ni'n cymryd pob honiad o fwlio yn Y Pant o ddifrif ac ni fyddwn yn goddef unrhyw achos lle mae bwlio wedi digwydd."

Polisi bwlio

Roedd yr ysgol hefyd wedi cymryd rhan mewn wythnos yn erbyn bwlio ym mis Tachwedd y llynedd, ac mae eu gwefan yn dweud eu bod wedi cymryd yr ymgyrch "o ddifrif".

Cafodd bwlio ei drafod yn y Cynulliad yr wythnos honno ac roedd cyfle i ddisgyblion wisgo breichledau arbennig i ddangos eu cefnogaeth.

Mae Ysgol Gyfun Treorci hefyd yn pwysleisio eu bod yn taclo bwlio.

Ar eu gwefan mae'r ysgol yn dweud: "Rydyn ni'n teimlo ei bod yn bwysig helpu ysgolion ganolbwyntio ar eu rôl o fewn yr ysgol a dangos sut y gallan nhw helpu eu hunain ac eraill.

"Mae gyda ni yr hawl i beidio â chael ein bwlio mewn unrhyw ffordd. Mae gyda ni gyfrifoldeb i beidio â bwlio eraill ac i adrodd am unrhyw fwlio yr ydyn ni'n ei weld. Mae gyda ni yr hawl i deimlo'n ddiogel yn yr ysgol."

Mewn datganiad wnaeth Heddlu'r De ddim enwi Simon ond dweud eu bod nhw wedi eu galw i Donyrefail ddydd Gwener lle oedd bachgen angen triniaeth feddygol.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yna Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, lle bu farw ddydd Mawrth.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ond nad oedden nhw'n ei drin fel un amheus ar hyn o bryd.