Swyddfa Cyngor ar Bopeth i gau yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Bydd Swyddfa Cyngor Ar Bopeth Ceredigion yn Aberystwyth yn cau ei drysau ym mis Mehefin oherwydd toriadau i'w cyllideb.
Mae'r newid oherwydd toriad o £80,000 - dros hanner eu cyllideb - ddaeth i rym yr wythnos yma.
Mae bwrdd yr elusen yn gobeithio sefydlu gwasanaethau mewn tri neu bedwar lleoliad gwahanol yn y dref.
Bydd yr elusen, oedd wedi delio gyda 12,000 o ymholiadau y llynedd, yn parhau i gael swyddfa yn Aberteifi a gwasanaethau llai mewn tair tref arall.
Cafodd CAB Ceredigion ei ffurfio bedair blynedd yn ol pan unodd swyddfeydd Aberystwyth ac Aberteifi.
Nawr, mae bwrdd yr ymddiriedolwyr wedi penderfynu ail-strwythuro'r gwasanaeth, gan ddarparu un hwb ganolog a sawl gwasanaeth yn gweithio o'r lleoliad yna.
'Parhau gyda gwasanaethau'
Dywedodd cadeirydd CAB Ceredigion, Paul Hinge: "Wedi i ni edrych ar nifer o opsiynau, y penderfyniad oedd cau swyddfa Aberystwyth fel adeilad parhaol ond parhau gyda'n gwasanaethau yn ardal Aberystwyth drwy asiantaethau eraill.
"Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaethau sy'n ymestyn allan i Lanbed, Aberaeron a Thregaron ond bydd rhaid dod â'r polisi 'drws ar agor' i ben yn Aberystwyth.
"Pan mae'r drysau yn cau ddiwedd Mehefin bydd rhaid i bobl wneud apwyntiad i weld un o'n swyddogion."
Cost rhedeg y ddwy swyddfa yng Ngheredigion yw £152,000 ond mae cyllid grant CAB wedi gostwng i £70,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Ym Mhowys, penderfynodd y cyngor ym mis Mawrth i dorri eu cyllid i CAB Powys o 15% yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn wreiddiol, roedd y cyngor wedi cysidro haneru'r gyllideb o £93,580.
Roedd CAB Powys wedi cyflwyno deiseb gyda 5,000 o enwau, gan ddweud y byddai'r toriad yn golygu mai Powys oedd yr unig sir yng Nghymru heb wasanaeth CAB.
Straeon perthnasol
- 20 Chwefror 2014