Murco: undeb Unite yn galw ar San Steffan i ymyrryd

  • Cyhoeddwyd
Purfa Murco yn Sir BenfroFfynhonnell y llun, Deborah Tilley
Disgrifiad o’r llun,
Mae trafodaethau wedi dechrau gyda'r 400 o weithwyr ar y safle

Mi ddylai purfa olew Murco yn Aberdaugleddau gael ei achub gan Lywodraeth Prydain yn ol un undeb.

Mae Unite yn dweud bod hi'n bwysig achub y lle er mwyn sicrhau cyflenwadau petrol yn y dyfodol ac am fod yna swyddi yn fantol.

Mae trafodaethau wedi dechrau gyda'r 400 o weithwyr ynglŷn â dyfodol y safle.

Yn ol Unite dylai llywodraeth San Steffan ymyrryd er mwyn cefnogi diwydiannau yng Nghymru.

Mae adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi dweud ei bod yn barod i helpu Murco wrth iddyn nhw geisio ffeindio prynwr newydd.

Ddydd Iau mi gyhoeddodd cwmni Murphy Oil, sy'n berchen ar y safle, y gallai'r lle gau.

Mae'r safle wedi bod ar werth ers pedair blynedd, ond roedd y cwmni wedi bod yn cynnal trafodaethau ers tro gyda chwmni Greybull Capital. Dyw'r trafodaethau hynny ddim wedi gweithio.

Mae Murco yn bwriadu siarad efo cwmnïau eraill sydd â diddordeb yn y safle yn y gobaith y bydd modd i'r burfa barhau. Ond mae pennaethiaid ar y safle wedi cyfaddef bod bob posibilrwydd yn cael eu hystyried gan gynnwys cau'r lle.

Dywedodd un o'r rheolwyr Tom McKinlay wrth BBC Radio Wales: "Rydyn ni wedi bod yn trio gwerthu'r busnes ers mwy na thair blynedd nawr fel busnes allith weithio ac mi fyddwn i yn parhau i wneud er ein bod ni wedi gwneud colledion sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf."

Angen ymyrraeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cefnogaeth ac mi fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn ymweld â'r safle er mwyn trio gwarchod swyddi.

Ond mae Ysgrifennydd Cymru Unite Andy Richards yn dweud bod angen i Lywodraeth Prydain ymyrryd:

"Mae swyddi, yr economi a chyflenwad Prydain yn fantol. Allith Llywodraeth Prydain ddim ail-adrodd camgymeriadau Coryton a gadael i burfa olew arall ym Mhrydain gau."

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran adran ynni a newid hinsawdd Llywodraeth San Steffan:

"Mae Llywodraeth Prydain mewn cysylltiad gyda Murco a Llywodraeth Cymru. Rydyn ni yn barod i'w cefnogi yn eu hymdrechion i ffeindio prynwr ac i sicrhau dyfodol i'r burfa a fydd yn amddiffyn swyddi yn y gweithlu."