Cwest Eliza: marwolaeth drwy ddamwain

  • Cyhoeddwyd
Eliza-Mae Mullane
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd Eliza-Mae Mullane ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru on doedd dim modd achub ei bywyd yn dilyn yr ymosodiad.

Mae cwest i farwolaeth Eliza-Mae Mullane, y babi ddioddefodd ymosodiad gan un o gŵn ei theulu, wedi dyfarnu marwolaeth drwy ddamwain.

Bu farw Eliza-Mae yn ei chartref ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin, ar Chwefror 18.

Clywodd y cwest yn Neuadd y Dref Llanelli fore Gwener fod y babi wedi dioddef ymosodiad ar ôl i un o gŵn ei theulu ei llusgo o'i phram. Roedd hi wedi dioddef anafiadau difrifol i'w phen.

Roedd Sharon John, mam Eliza-Mae, wedi gadael ei merch yn cysgu mewn pram er mwyn hebrwng ei mab i dacsi oedd yn ei gludo o'r tŷ i'r ysgol.

Fe gafodd Eliza ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ond doedd dim modd achub ei bywyd.

Dywedodd y crwner Mark Layton: ''Doedd dim modd i fam Eliza ragweld y byddai hyn wedi gallu digwydd o gwbl.''

Clywodd y cwest nad oedd cŵn y teulu wedi dangos unrhyw arwyddion o fod yn fygythiol cyn y digwyddiad.

Dywedodd datganiad gan Patrick Mullane, tad Eliza: ''Dwi'n gobeithio y gall Sharon, y plant a minnau symud ymlaen o'r tristwch hwn a chofio gyda hapusrwydd yr amser byr a dreulion ni gyda Eliza-Mae.''

''Rwyf yn gobeithio y bydd y cwest hwn yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am peryglon cŵn teuluol i blant ifanc iawn.''