Y Gwyll yn dychwelyd i'r sgrin
- Cyhoeddwyd
.jpg)
Bydd drama dditectif Y Gwyll yn ymddangos eto ar y teledu mewn cyfres newydd. Mae disgwyl i'r gwaith gychwyn ar y gyfres bum rhan ym mis Medi.
Yr un tim fydd wrthi, y cynhyrchydd Gethin Scourfield, y ddau sydd wedi creu'r ddrama Ed Talfan ac Ed Thomas a'r prif gymeriad, DCI Mathias. Richard Harrington sydd yn chwarae'r cymeriad yma. Mi fydd y bartneriaeth rhwng BBC Cymru Wales ac S4C hefyd yn parhau a'r gyfres eto yn cael ei gwneud yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yng Ngheredigion y bydd y gwaith ffilmio'n digwydd.
Mae Ed Thomas sydd yn gynhyrchydd gyda chwmni Fiction Factory yn croesawu'r newyddion:
"Rydym wrth ein boddau bod S4C a BBC Cymru Wales wedi penderfynu parhau ar y siwrne gyffrous hon gyda ni.
"Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddarllediad y gyfres gyntaf ar BBC Four. Mae'r prosiect yn dathlu talent o Gymru mewn sawl ffordd ac i ni wrth ein boddau ein bod yn dychwelyd gydag ail gyfres."
Mwy o gyfrinachau?
Mae Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd yn dweud bod y gyfres wedi apelio nid yn unig at y Cymry ond cynulleidfa ehangach.
"Gyda BBC Cymru Wales yn ymuno â ni fel cyd-gynhyrchwyr ar yr ail gyfres hefyd, gall y gynulleidfa edrych ymlaen at gyfres newydd o Y Gwyll / Hinterland - sy'n golygu mwy o dyndra, cynllwynio a chyfrinachau mewn lleoliad godidog yng Ngheredigion, a rhagor o gliwiau am broblemau a gofidion DCI Mathias, y dyn sydd wrth galon y gyfres afaelgar hon."
Mae Adrian Davies, Pennaeth Rhaglenni Saesneg BBC Cymru Wales yn ffyddiog y bydd yr ail gyfres yr un mor boblogaidd â'r un gyntaf.
"Llwyddodd Hinterland i dorri tir newydd ymysg cynulleidfaoedd BBC One Wales gyda deialog ddwyieithog, straeon cryf a golygfeydd godidog. Ac roedd ymateb y gynulleidfa i'r gyfres gyntaf yn hynod o gadarnhaol.
"Rwy'n siŵr y bydd y darllediad ar BBC Four cyn hir yn arwain at ymateb yr un mor ffafriol gan y gynulleidfa - fydd yn ychwanegu at y cyffro wrth i ni aros am y penodau cyffrous nesaf."
Bydd y gyfres newydd ar y sgrin ddiwedd 2014/ dechrau 2015.
Straeon perthnasol
- 8 Tachwedd 2013
- 30 Hydref 2013
- 22 Tachwedd 2013