O Dreforys i Uganda: Meddyg yn cynnig cymorth

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty MityanaFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Amgylchiadau anodd: cleifion a meddygon yr ysbyty yn Mityana.

Mae un o feddygon Ysbyty Treforys, Abertawe, wedi derbyn gwahoddiad i fod yn brif ymgynghorydd meddygol elusen yn Uganda ar ôl iddo ymweld â'r wlad i drin cleifion.

Fis diwethaf fe dreuliodd Andrew Jones o Gaerfyrddin gyfnod mewn ysbyty yn ardal Mityana mewn amgylchiadau anodd. Llwyddodd i achub bywydau a chynnig cymorth adeg pump o enedigaethau.

Ar ôl dychwelyd i Gymru fe dderbyniodd gynnig gan elusen Sefydliad Cymuned Mityana.

''Fe ddaeth y gwahoddiad o nunlle - doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl.

''Fe 'nes i ei dderbyn yn syth ac rwy'n dechrau yn swyddogol ddydd Llun. Mae'n anrhydedd anhygoel ...."

Mae Andrew yn gweithio ym maes anaesthetig yn adran llosgiadau Ysbyty Treforys ac yn diwtor yng Ngholeg Meddygol Prifysgol Abertawe.

37 o lawdriniaethau

Yn ystod ei ymweliad diwethaf ym mis Chwefror fe fu'n gyfrifol am 37 o lawdriniaethau i drin effeithiau llosgiadau, damweiniau, ymosodiadau ac anafiadau cyllyll a bwledi.

Roedd yn cynorthwyo gyda genedigaethau cesaraidd ar bump achlysur. Yn ystod un enedigaeth fe ddaeth cyflenwad trydan goleuadau'r theatr llawdriniaeth i ben ac fe fu'n rhaid iddo barhau gyda'r gwaith gyda lamp ben.

''Does ganddyn nhw ddim teclynnau llawdriniaeth allan yno. Does dim anaesthetig, ocsigen na dim o'r pethau sylfaenol y byddech chi'n disgwyl ei weld mewn unrhyw ysbyty.'

''Bydd fy rôl newydd yn golygu cynghori'r ysbyty ynglyn â pha declynnau sydd angen arnyn nhw, a chodi arian i brynu'r teclynnau hyn.''

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Mae Andrew Jones wedi derbyn y cynnig i fod yn brif ymgynghorydd meddygol i elusen yn ardal Mityana.

Un broblem fawr yn Uganda, meddai, yw'r nifer o blant sydd yn dioddef llosgiadau difrifol ar ôl llosgi ar danau agored sydd yn cael eu defnyddio i goginio yno.

Yn ystod ei daith gyntaf i Uganda fis Mehefin diwethaf fe ganolbwyntiodd Andrew ar geisio addysgu'r bobl yn lleol am beryglon tanau, gan danlinellu'r perygl i blant.

Mae'n gweithio ar gynhyrchu pamffledi lliwgar fydd yn rhybuddio plant am y peryglon a'r bwriad ydi cyfieithu'r pamffled i'r dafodiaith frodorol, sef tafodiaith Luganda.

''Y broblem ydi fod ofergoelion lleol yn golygu bod pobl yn trin llosgiadau gyda mwd, mêl neu hyd yn oed fraster anifeiliaid ...

"Bydd y pamffled newydd yn llachar ac yn hawdd i'w ddarllen gan mai plant sydd yn dioddef fwyaf yn yr achosion hyn,'' meddai.