Clwydi trydanol: Dau gwmni'n pledio'n euog
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Caerdydd mae dau gwmni wedi pledio'n euog i gyhuddiadau'n ymwneud â'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch.
Bu farw Karolina Golabek, pump oed, ar ôl cael ei gwasgu gan glwydi trydanol ger ei chartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr yng Ngorffennaf 2010.
Bydd John Glen Installation Services a Tremorfa Ltd yn cael eu dedfrydu ar Fehefin 12.
Clywodd y llys honiadau nad oedd y clwydi wedi eu gosod yn unol â safonau Prydeinig ac Ewropeaidd ac nad oedd archwiliadau diogelwch wedi bod.
Difrifol iawn
Dywedodd y Barnwr Neil Bidder QC fod yr achos yn ddifrifol iawn ac yn gymhleth a bod angen llawer o waith paratoi cyn dedfrydu.
Roedd ei thad wedi gweld Karolina am 4yh y diwrnod y cafodd ei gwasgu gan y clwydi.
Cynigiodd un o drigolion y fflatiau help iddi ac aed â hi i Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont, lle bu farw.
Clywodd cwest yn Hydref 2012 fod peiriant newydd wedi ei osod ar y clwydi ym Mai 2008 ond bod trigolion wedi cwyno am wendidau.
Cofnodwy rheithfarn o farwolaeth drwy ddamwain a nodwyd bod clwyd anniogel yn ffactor.
Straeon perthnasol
- 27 Ionawr 2014
- 4 Hydref 2012
- 5 Gorffennaf 2010