Elusen yn amddiffyn penderfyniadau yn dilyn dynladdiad

  • Cyhoeddwyd
Claude Place, CardiffFfynhonnell y llun, Google Street View
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Stephen Rees mewn hostel yn Claude Place

Mae elusen iechyd meddwl wedi amddiffyn y camau a gymerwyd ar ôl i ddyn oedd yn dioddef gyda chyflwr schizophrenia ladd dyn arall oedd yn aros yn yr un hostel yng Nghaerdydd.

Gallai marwolaeth Stephen Rees, a ddioddefodd ymosodiad gan Nathaniel John ym mis Mawrth 2011, fod wedi cael ei atal yn ôl adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddydd Gwener.

Dywedodd yr adroddiad fod ''cyfleoedd wedi eu methu'' i helpu John.

Dywedodd elusen Mind Caerdydd eu bod wedi ymddwyn yn ''gywir a phroffesiynol'' a doedd gan yr elusen ddim tystiolaeth i awgrymu fod John yn fygythiad i neb.

Torrodd Nathaniel John wddf Stephen Rees gyda chyllell mewn hostel yn y Rhath oedd yn cael ei redeg gan elusen Mind Caerdydd..

Mae'r adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi amlygu methiannau mewn cyfathrebu rhwng asiantaethau.

Ymosododd Mr John, oedd yn 27 ar y pryd, ar Mr Rees, 53, yn yr hostel yr oedd y ddau yn byw ynddo cyn ffonio am ambiwlans.

Bu farw Mr Rees o'i anafiadau yn ddiweddarach.

Yn Llys y Goron Caerdydd yn 2011, cyfaddefodd Mr John ddynladdiad ar sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Bydd yn cael ei gadw mewn ysbyty diogel.

'Derbyn argymhellion'

Wrth ymateb, dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod "yn derbyn pob un o argymhellion yr adroddiad".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod y gwaith o weithredu argymhellion yr adroddiad eisoes wedi dechrau.

Dywedodd Mind Caerdydd eu bod yn derbyn yr argymhelliad bod angen mwy o gyfathrebu, ond ei bod hi'n bosib na fyddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth yn yr achos yma.

"Mae ganddo ni'r teimlad na fyddai pethau wedi bod yn wahanol hyd yn oed os byddai'r holl wybodaeth am yr achos yma wedi cael ei rannu gyda ni," meddai'r datganiad.

"Mewn ffordd roedd y drasiedi yma yn gyfuniad o amodau oedd allan o reolaeth unrhyw un er ein bod ni'n derbyn y bydd gwersi i'w dysgu yn y dyfodol."