Hull 1-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Hull ar ôl 39 munud wedi peniad grymus gan George Boyd.
Hull 1-0 Abertawe
Bydd Abertawe yn wynebu diweddglo ychydig yn fwy ansicr i'r tymor yn dilyn colli o un gôl i ddim yn erbyn Hull ddydd Sadwrn.
Daeth cyfle gorau'r Elyrch yn y gêm pan saethodd Jonjo Shelvey y bêl yn syth at olwr Hull, Steven Harper.
Sgoriodd Hull ar ôl 39 munud wedi peniad grymus gan George Boyd.
Roedd buddugoliaeth i Hull yn golygu fod tîm Steve Bruce ychydig yn fwy hyderus o barhau yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf, gyda naw pwynt rhyngddyn nhw a'r tri thîm isaf.
Roedd perfformiad siomedig gan Abertawe yn golygu fod yr Elyrch a'u rheolwr Garry Monk yn dal i wynebu brwydr i barhau yn yr Uwch Gynghrair, er bod chwe phwynt yn dal i fod rhyngddyn nhw a'r tri thîm ar waelod yr adran - sydd yn cynnwys Caerdydd.
Straeon perthnasol
- 29 Rhagfyr 2012
- 26 Rhagfyr 2012
- 23 Rhagfyr 2012
- 16 Rhagfyr 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol