Caerdydd 0-3 Crystal Palace
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd bellach yn yr ail safle o'r gwaleod yn Uwch Gyngrair Lloegr.
Caerdydd 0-3 Crystal Palace
Cynyddu mae pryderon cefnogwyr clwb pêl-droed Caerdydd ar ôl i'r tîm ddioddef crasfa o dair gôl i ddim yn erbyn Crystal Palace yn eu gêm gartref ddydd Sadwrn.
Aeth chwaraewyr Tony Pulis ar y blaen cyn yr hanner gyda gôl gan Jason Puncheon. Llwyddodd Crystal Palace i ymestyn y fantais yn yr ail hanner ar ôl gôl gan gyn-chwaraewr Caerdydd, Joe Ledley.
Ychydig cyn diwedd y gêm fe chwalwyd gobeithion Caerdydd a'u rheolwr Ole Gunnar Solskjaer wedi i Puncheon sgorio ei ail gôl o'r prynhawn.
Mae Caerdydd bellach yn yr ail safle o'r gwaleod yn Uwch Gynghrair Lloegr.