Seintiau ac Aber fydd yn ffeinal Cwpan Cymru eleni

  • Cyhoeddwyd
Cwpan CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Y Seintiau Newydd 2-1 Bala

Aberystwyth 3-1 Treffynnon

Y Seintiau Newydd fydd yn wynebu Aberystwyth yn ffeinal Cwpan Cymru eleni. Llwyddodd y Seintiau i guro'r Bala o ddwy gôl i un ar Barc Latham yn y Drenewydd ddydd Sadwrn.

Aberystwyth fydd eu gwrthwynebwyr yn y ffeinal ar ôl i Aber guro tîm Treffynnon o dair gôl i un ym Mrychdyn.

Bydd y gêm derfynol yn cael ei chwarae rhwng y ddau glwb ar ddydd Sadwrn, Mai 3.