Dechrau calonogol i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
MorgannwgFfynhonnell y llun, GCCC

Fe gafodd Morgannwg ddiwrnod calonogol ar ddiwrnod cyntaf llawn y tymor criced newydd ym Mhencampwriaeth y Siroedd ar yr Oval yn erbyn Surrey ddydd Sul.

Ar ôl colli'r tafliad, sgoriodd Surrey 182 rhediad am 5 wiced dros 73.1 pelawd, ac fe fydd Morgannwg yn cychwyn yr ail ddiwrnod yn hyderus ddydd Llun yn dilyn y chwarae ar y diwrnod cyntaf.

Fe sgoriodd Steven Davies a Zafar Ansari dros 50 o rediadau yr un i Surrey, ar ôl dechrau gwael gan y tîm cartref.

Aeth dwy wiced i Michael Hogan a James Allenby o Forgannwg, cyn i olau gwan olygu diwedd ar y chwarae am y dydd.