Wedi'r ddrycin: Aberystwyth yn paratoi am dymor newydd
- Cyhoeddwyd

Mae busnesau a gafodd eu heffeithio gan y stormydd cryfion a darodd Aberystwyth yn gynharach eleni yn paratoi i groesawu ymwelwyr i'r dref ar ddechrau tymor newydd.
Gobaith Cyngor Ceredigion ydi y bydd promenad y dref wedi ei drwsio erbyn gwyliau'r Pasg.
Mae'r cyngor hefyd wedi gwario £50,000 ar ymgyrch radio, papur newydd a theledu er mwy lledaenu'r neges fod busnesau twristiaeth yn ôl ar eu traed yn dilyn difrod y tywydd garw.
Mae disgwyl i'r gost o adnewyddu adeiladau yn dilyn y stormydd gyrraedd dros £1.5m.
Mae agoriad Rheilffordd y Graig ar hyd Graig-Glais (Constitution Hill) yn cael ei gysidro fel dechrau'r tymor twristiaeth yn y dref. Mae teithwyr wedi cael eu cludo i ben y graig ar y rheilffordd ers iddo agor yn 1896.
Cafodd to yr orsaf ar ben y bryn ei adnewyddu yn ddiweddar ar gost o £30,000, ac fe gafodd peirianwaith sydd yn cludo'r cerbydau eu hadnewyddu hefyd.
'Yn erbyn y cloc'
''Rydan ni'n gweithio yn erbyn y cloc i adnewyddu'r peirianwaith cyn i ni agor fore Sadwrn,'' meddai Alun Davies, rheolwr y rheilffordd. Cafodd 50,000 o bobl eu cludo i ben y graig y llynedd.
''Da ni'n croesi ein bysedd y bydd modd agor mewn pryd,'' meddai Mr Davies.
'Tywydd gwell'
Dywedodd Chris Mackenzie-Grieve, cadeirydd Siambr Fasnach Aberystwyth, fod busnesau yn teimlo'n hyderus am y rhagolygon busnes yr haf hwn.
''Mae gwyliau'r Pasg yn hwyr ym mis Ebrill eleni sydd yn golygu y byddwn ni'n manteisio ar dywydd gwell,'' meddai.
Bydd ymgyrch marchnata newydd Cyngor Ceredigion yn cael ei lansio ddydd Llun ac fe fydd yn cynnwys hysbysebion mewn papurau newydd yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â hysbysebion radio a theledu.
Daw'r ymgyrch yn dilyn galwadau gan berchnogion gwestai yn Aberystwyth oedd am i'r cyngor hybu busnesau oedd yn dioddef o achos gostyngiad mewn niferoedd ymwelwyr i'r dref.
Fis Ionawr fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai Ceredigion yn derbyn £560,000 tuag at y gost o adnewyddu adeiladau yn dilyn difrod y stormydd geirwon.