Brodyr o'r Parc ger y Bala yn profi llwyddiant ar y dŵr
- Cyhoeddwyd

Mae dau frawd o bentref y Parc ger y Bala yn profi llwyddiant ym myd canwio dŵr gwyllt.
Mae Rhys a Jac Davies wedi llwyddo i gael eu dewis i sgwad Prydain dan dair ar hugain a sgwad deunaw oed.
Mi fydd Rhys yn cystadlu ym mhencampwriaeth y byd yn Awstralia a Jac ym mhencampwriaeth Ewrop, sydd yn cael ei gynnal ym Macedonia yn fuan.
Mae'r ddau frawd yn hyfforddi'n gyson ar afon Tryweryn ger y Bala - sydd yn enwog drwy Ewrop fel mangre i ganwio dŵr gwyllt.
Heidio o bell ac agos
Mae pobl yn heidio o bell ag agos i brofi cyffro canwio ar yr afon gan fod llif y dŵr yn cael ei reoli drwy gael ei ollwng o Lyn Celyn.
Mae Rhys, 22 oed, a'i frawd Jac, 18 oed, wedi bod yn canwio ers blynyddoedd fel aelodau o glwb canwio Bala a nawr mae'r holl ymarfer wedi talu ar ei ganfed.
Wythnos nesaf bydd Rhys Davies yn mentro i Awstralia ar gyfer pencampwriaeth y byd ac yn cystadlu yn y gystadleuaeth cwch dau ddyn.