Pineau De Re yn ennill ras y Grand National yn Anitree
- Cyhoeddwyd

Pineau De Re oedd y ceffyl buddugol yn ras y Grand National yn Aintree ddydd Sadwrn.
Balthazar King ddaeth yn ail a Double Seven ddaeth yn drydydd. Leighton Aspall oedd y joci buddugol a lywiodd Pineau de Re i fuddugolaeth.
Doedd dim llwyddiant y flwyddyn hon i geffylau gyda chysylltiadau Cymreig.
1905 oedd y tro diwethaf i geffyl oedd wedi ei hyfforddi yng Nghymru ennill ras enwog y Grand National - ac fe fydd yn rhaid aros am flwyddyn arall i weld os caiff ceffyl o Gymru lwyddiant dros y 30 o glwydi a'r pedwar milltir a hanner o gwrs.
Cysylltiadau Cymreig
Roedd na sawl ceffyl gyda chysylltiadau Cymreig yn cymryd rhan yn y ras eleni. Cafodd y ffefryn Teaforthree ei hyfforddi yn stablau Ms Curtis yn Fferm Fforest ger Trefdraeth. Gorffennodd Teaforthree yn drydydd yn Aintree y llynedd gyda Nick Scholfield yn ei farchogaeth, ond doedd dim llwyddiant iddo eleni.
Y joci o Gymru, Sam Twiston Davies, oedd marchog Tidal Bay yn Aintree, ac roedd nifer yn credu y byddai yntau ymhlith y ceffylau blaen.
Roedd gobeithion mawr am lwyddiant i Monbeg Dude hefyd. Un o gydberchnogion y ceffyl yw maswr Bryste - gynt o'r Gleision a Chymru - Nicky Robinson.
Dywedodd e wrth Newyddion Ar-lein bod hanes prynu'r ceffyl yn ddigon doniol, ond bod y broses wedi talu ar ei ganfed.
"Roedd tro ohono ni'n chwarae i Gaerloyw oedd â diddordeb mewn rasio ceffylau, sef Mike Tyndall, James Simpson-Daniel a fi, ac fe aeth Mike i ocsiwn geffylau.
"Fe 'naeth e bid (o £12,000) a ga'th e dipyn o sioc achos 'naeth neb bidio yn ei erbyn e. Roedd e ar y ffôn wedyn yn trio cael y gweddill ohono ni i roi arian iddo fe.
"Fydd pobl eraill sy' wedi prynu ceffylau yn wyllt yn clywed hwn achos maen nhw'n costio lot mwy fel arfer, ond mae e wedi ennill lot o rasys a lot o arian chware teg."
Roedd na geffylau eraill gyda chysylltiadau Cymreig yn y ras ddydd Sadwrn hefyd.
Mountainous oedd enillydd Grand National Cymru ar gwrs Cas-gwent ym mis Rhagfyr y llynedd, a'i berchennog yntau yw cadeirydd cwrs rasio Ffos Las, Dai Walters. Mae e hefyd yn cael ei hyfforddi yng Nghymru gan Richard Lee yn ei stablau yn Llanandras ym Mhowys.
Roedd gan Evan Williams - un o hyfforddwyr enwocaf Cymru sydd wedi gwneud yn dda yn Aintree yn y gorffennol - geffyl yn rhedeg yn Aintree heddiw. One In A Milan ydi enw'r ceffyl, ond methu wnaeth yntau fel gweddill y ceffylau sy'n gysylltiedig â Chymru i neidio i fuddugoliaeth y tro hwn.