Enzo Maccarinelli yn colli ei ornest yn yr Almaen

  • Cyhoeddwyd

Colli wnaeth y Cymro Enzo Maccarinelli yn ei ornest yn erbyn pencampwr bocsio WBA y byd Jurgen Brahmer ddydd Sadwrn, Ebrill 5.

Hon oedd y seithfed gornest i Maccarinelli ei golli yn ystod ei yrfa. Cafodd yr ornest nos Sadwrn ei chynnal yn Rostock yn yr Almaen, a'r Almaenwr Brahmer oedd yn fuddugol.

Penderfynodd hyfforddwr Maccarinelli, Gary Lockett, ddod a'r ornest i ben ar ddiwedd y pumed rownd ar ôl i lygad dde'r Cymro gau yn llwyr.

Roedd y broblem wedi codi yn y rownd gyntaf wrth i bennau'r ddau wrthwynebwr daro yn erbyn ei gilydd.

Llwyddodd Brahmer, 35, i gynyddu'r fantais gyda'i law dde effeithiol.

Roedd Maccarinelli, cyn-bencampwr gor-drwm y byd, wedi gobeithio y byddai ei daldra o fantais iddo yn erbyn Brahmer, oedd dim ond wedi colli dwy ornest yn ystod ei yrfa, ond nid felly y bu ar y noson.