Solskjaer: Angen 'gwyrth' ar Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae angen 'gwyrth' ar glwb pêl-droed Caerdydd i aros yn yr Uwch Gynghrair meddai eu rheolwr Ole Gunnar Solskjaer.

Daw ei sylwadau ar ôl i'r clwb golli 3-0 yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn.

Dim ond ers tymor mae Caerdydd wedi bod yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair, ond gyda dim ond pum gêm ar ôl y tymor hwn, a Chaerdydd chwe phwynt i ffwrdd o ddiogelwch, mae'n ymddangos mai disgyn bydd hanes yr Adar Gleision os na ddaw 'gwyrth' mewn amser.

Cynyddu mae pryderon cefnogwyr y clwb ar ôl i'r tîm ddioddef crasfa o dair gôl i ddim yn erbyn Crystal Palace yn eu gêm gartref ddydd Sadwrn.

Aeth chwaraewyr Tony Pulis ar y blaen cyn yr hanner gyda gôl gan Jason Puncheon. Llwyddodd Crystal Palace i ymestyn y fantais yn yr ail hanner ar ôl gôl gan gyn-chwaraewr Caerdydd, Joe Ledley.

Ychydig cyn diwedd y gêm fe chwalwyd gobeithion Caerdydd a'u rheolwr Ole Gunnar Solskjaer wedi i Puncheon sgorio ei ail gôl o'r prynhawn.

Mae Caerdydd bellach yn yr ail safle o'r gwaelod yn Uwch Gynghrair Lloegr.