Angen graddedigion ar gyfer peirianneg meddai academi
- Cyhoeddwyd

Mae angen i Gymru greu dros i ddwy fil a hanner o raddedigion ym mhynciau mathemateg, technoleg, peirianneg a'r gwyddorau pob blwyddyn er mwyn bodloni gofynion y diwydiant peirianneg, yn ôl un corff.
Daw'r rhybudd gan yr Academi Beirianneg Frenhinol, sy'n dweud y gallai ein heconomi ddioddef os na ddaw graddedigion o'r pynciau hyn i lenwi swyddi'r dyfodol.
Yn ôl yr Academi Beirianneg Frenhinol, drwy Brydain mi fydd angen 800,000 o raddedigion ychwanegol ym meysydd mathemateg, technoleg, peirianeg a'r gwyddorau erbyn 2020.
Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru wedi eu cyflogi yn y diwydiant peirianneg, ac mae disgwyl i'r sector dyfu dros y ddegawd nesaf.
Ond mae pynciau mathemateg, technoleg, peirianneg a'r gwyddorau yn rhai sydd yn cael eu hastudio gan amlaf gan fechgyn ar gyfer lefel A.
Un ateb posib i godi'r niferoedd ydy eu gwneud nhw'n feysydd fyddai'n fwy deniadol i ferched.
'Maes eang'
Yn ôl Huw Hall Williams o sefydliad Peirianneg Cymru, mae adroddiadau wedi bod yn tanlinellu'r diffyg ers tro.
Ond mae'n dweud bod cyfleoedd eang yn y diwydiant.
"Mae'r maes mor eang, mae'r gair peirianneg yn ymbarél mawr ar gyfer nifer helaeth o swyddi," meddai.
"Yn y wlad yma rydyn ni'n cynhyrchu nwyddau fel adenydd awyrennau yn y gogledd i lawr at gynhyrchu'r Raspberry Pi i lawr ym Mhen y Bont, felly mae'r swyddi ym maes peirianneg yn eang dros ben."
Un o brif amcanion y sefydliad yw annog mwy o ddisgyblion i feddwl am yrfa mewn technoleg a pheirianneg, yn arbennig merched.
"Mae targedu merched yn un o'n targedau mwyaf ni. Ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio hefo miloedd o blant bob blwyddyn ac mae 50% yn ferched.
"Rydyn ni'n anelu at fynd a merched i brifysgolion ac allan i ddiwydiant er mwyn dangos iddyn nhw be' sydd ar gael.
"Yng nghyfnod allweddol 5 wedyn, yn anffodus mae nifer y merched yn mynd i lawr i tua 35% felly rydyn ni'n gweithio'n galed nawr i ddangos bod 'na yrfa i gael yn y byd peirianneg."
Straeon perthnasol
- 13 Mawrth 2014
- 29 Mawrth 2012