Gohirio arian: Cabinet Penfro yn cwrdd

  • Cyhoeddwyd
Doc Penfro
Disgrifiad o’r llun,
Mae Doc Penfro yn un o'r trefi sydd wedi derbyn arian o dan y cynllun Ewropeaidd.

Bydd cabinet Cyngor Sir Penfro yn cyfarfod yn ddiweddarach i drafod y camau nesaf ar ôl i arian Ewropeaidd ar gyfer cynllun adnewyddu siopau ac adeiladau busnes mewn dwy dref yn Sir Benfro gael ei ohirio.

Mae'r cynllun grantiau yn gysylltiedig ag ymchwiliad yr heddlu i honiadau o dwyll.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod arian ar gyfer Cynllun Grant Eiddo Masnachol Cyngor Sir Penfro wedi ei ohirio am y tro yn ystod adolygiad gan y cyngor.

Wythnos diwethaf fe wrthododd y cyngor wneud unrhyw sylw nes bod y mater yn cael ei drafod gan y cabinet.

Mae disgwyl i'r cabinet drafod y mater yn hwyrach ddydd Llun tu ôl i ddrysau caeedig.

'Treftadaeth'

Yn ôl gwefan y cyngor, mae'r arian yn rhan o gynllun sydd wedi ei gefnogi gan yr Undeb Ewropeaidd i "adfywio ac adnewyddu treftadaeth gyfoethog" trefi Penfro a Doc Penfro.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi gohirio taliadau Undeb Ewropeaidd dros dro mewn cysylltiad â Cynllun Grant Eiddo Masnachol Cyngor Sir Penfro tra bod y cyngor yn adolygu hawliau gwariant y cynllun."

Fe dalodd y cynllun am waith adnewyddu ar adeilad oedd yn arfer bod yn fanc yn Noc Penfro ac mae hyn yn destun ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys.

Cafodd y gwaith adnewyddu ei wneud ar lawr isaf adeilad rhif 10 Stryd Meyrick.

'Anghysonderau'

Dywedodd y cyngor fod "anghysonderau yn gysylltiedig â'r tendr" wedi eu cyfeirio yn swyddogol i'r heddlu.

"Mae'r mater yn mynd i gael ei drafod gan y cabinet ddydd Llun," meddai llefarydd. "Does dim sylw pellach."

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau o dwyll.

Mae perchennog 10 Stryd Meyrick, datblygwr eiddo o Sir Dorset o'r enw Cathal McCosker, wedi dweud y byddai'n amhriodol iddo wneud unrhyw sylw.