Toriadau'n arwain at 'deneuo' rhai rhaglenni BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Talfan DaviesFfynhonnell y llun, BBC Cymru

Mae toriadau cyllid - a arweiniodd at benderfyniadau ynglŷn â diogelu gwasanaethau craidd BBC Cymru, fel y gwasanaeth newyddion a gwleidyddiaeth - wedi golygu fod rhaglenni mewn meysydd eraill o'r arlwy wedi eu ''teneuo'' yn ôl cyfarwyddwr BBC Cymru.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies wrth BBC Radio Wales ddydd Sul fod torriadau o 20% mewn gwariant dros y chwech neu saith mlynedd diwethaf wedi cael effaith ar ddarlledu mewn meysydd fel comedi.

Ddydd Mawrth, mewn araith yng Nghaerdydd, dywedodd Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, fod darpariaeth rhaglenni yng Nghymru wedi ei ''erydu''.

Mae BBC Cymru yn dathlu 50 mlynedd mewn bodolaeth yn 2014.

Dywedodd Mr Hall yn ei araith fod lefel y darlledu drwy gyfrwng y Saesneg o Gymru ac am Gymru gan yr holl ddarlledwyr wedi gostwng ers bron i ddegawd.

Wrth siarad ar rageln Sunday Supplement BBC Radio Wales, fe gytunodd Mr Davies gydag elfennau o araith Mr Hall.

''Roedd y penderfyniadau y gwnaethon ni eu cymryd yn gywir dwi'n meddwl, ar gyfer diogelu conglfeini BBC Cymru, sef newyddion, materion cyfoes, a'r sylw i wleidyddiaeth.''

''Canlyniadau''

"Dwi'n meddwl mai'r hyn y rhoddodd Tony ei fys arno yn yr araith ydi, o wneud y penderfyniadau hynny, y penderfyniadau cywir, mae yna ganlyniadau'n dod o hyn.

"Gyda rhaglenni eraill mewn meysydd rhaglenni fel comedi neu raglenni diddan neu rhai ardaloedd o raglenni dogfen, mae'r rhaglennu yn mynd yn deneuach a dyna sy'n dod o fyw o fewn ein cyllid,'' meddai wrth y cyflwynydd Vaughan Roderick.

Dywedodd Mr Davies ei fod yn credu fod Mr Hall wedi tanlinellu yn ei araith fod cyfrifoldeb anghymesur gan BBC Cymru mewn newyddiaduraeth a darlledu, gyda'r wasg Gymreig wedi ei chyfyngu o gymharu gyda'r wasg yn yr Alban.

''Mae'r cyfrifoldeb am nid yn unig gohebu am Gymru ond gwneud synnwyr o Gymru yn ddiwyllianol, cymdeithasol, ieithyddol, i gyd i raddau mawr yn disgyn ar y BBC.

"Fe ddeallodd Tony Hall y sefyllfa yng Nghymru, yn benodol sut yr ydym yn gwasanaethu yr 80% o'r boblogaeth sydd ddim yn siarad Cymraeg.

''Diffyg''

"Mae yna ddiffyg yna - nid cymaint yn y newyddiaduraeth sydd yn aml yn ffocws i'n harweinwyr gwleidyddol, ond mewn ardaloedd eraill fel comedi a rhaglenni diddan.

"Beth mae'n ofyn amdano ydi trafodaeth eang, nid trafodaeth sydd i'w gweld drwy brism newyddion neu'r iaith Gymraeg, ond un sydd yn edrych ar holl anghenion diwyllianol Cymru.''

Fe ychwanegodd: ''Mae'r arian wedi bod yn gostwng, ond yn greadigol tydi ein safonnau ddim yn gostwng.''