Undeb Rygbi: 'Mwyaf llwyddiannus'
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi ysgrifennu at y 320 o'i aelodau gan ddweud ei fod yn rhedeg ''un o'r undebau mwyaf llwyddiannus yn y byd''.
Un o'r tri sydd wedi arwyddo y llythyr ydi cadeirydd yr undeb, David Pickering.
Mae cyn-brifweithredwr yr URC, David Moffett, wedi bod yn galw am gefnogaeth gan y clybiau i ddisodli Pickering.
Mae llythyr yr undeb at yr aelodau yn rhestru nifer o bwyntiau i'w ''hatgoffa'' o sut y mae'n gweithredu ei strategaeth er mwyn rhoi cymorth i'r gêm ar lawr gwlad.
Ym mis Mawrth fe gyhoeddodd Moffett ei faniffesto mewn ymdrech i ennill pleidleisiau er mwyn ymuno â bwrdd URC.
Maniffesto
Mae ei faniffesto yn cynnwys cynlluniau i fuddsoddi mwy mewn rygbi ar lawr gwlad, newid y ffordd y mae'r gêm yn cael ei llywodraethu, a chyflwyno cynllun ariannu pum mlynedd o hyd i glybiau proffesiynol.
Yn y llythyr i'r clybiau, oedd wedi ei ddyddio Ebrill 4, mae'r undeb yn tanlinellu'r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud mewn rygbi ar lawr gwlad.
Mae'r llythyr yn dweud fod yr undeb wedi buddsoddi ''mwy na £27m i'r gêm yn y cymunedau.''
''Heblaw am hyn mae ein strwythurau buddsoddi uniongyrchol wedi sicrhau lefel cyson o ariannu...a welodd y gêm ar lawr gwlad yn derbyn £4m mewn cefnogaeth gan URC.''
Buddsoddiad
''Cafodd £1.3m ei ddosbarthu i'r gêm gymunedol ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf yn dilyn perfformiad arianol cryf gan URC. Roedd hyn ar ffurf £800,00 o grant i adnoddau clybiau, £300,000 ar gyfer gwefannau newydd i glybiau, a £200,000 i gynlluniau ysgolion.''
Dywedodd y llythyr fod adolygiad diweddar pennaeth rygbi URC, Josh Lewsey, i'r gêm yng Nghymru yn cynnwys ''cynlluniau i fynd i'r afael â materion all wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad.''
Mae'r undeb yn dweud ei fod yn rhannu'r wybodaeth gyda chlybiau er mwyn gallu ''parhau i gynnal deialog a thrafodaeth ystyrlon''.
''Wrth gwrs mae problemau a materion sydd angen eu harchwilio a'u trafod'' meddai'r llythyr.
''Mae gorchwyl y corff llywodraethol mor eang fel y bydd yn anochel y bydd yn rhaid trafod materion.
"Mae eich rhan chi yn y drafodaeth yn hanfodol achos mae ein cyfansoddiad yn gosod perchnogaeth rygbi Cymru yn nwylo ein clybiau''.