Cornish Pirates 14 - 16 Pontypridd

Mae clwb rygbi Pontypridd wedi sicrhau eu lle yn rownd gyn-derfynol y Gwpan Brydeinig a Gwyddelig, ar ôl buddugoliaeth yn erbyn y Cornish Pirates yn Penzance ddydd Sul.

Llwyddodd Aaron Carpenter o'r Cornish Pirates i sgorio cais ac fe giciodd Kieran Hallett dair cic cosb, ond doedd hyn ddim yn ddigon o fantais i'r tîm cartref.

Daeth cic gosb hwyr â buddugoliaeth i Bontypridd, fydd yn wynebu Leinster yn y rownd gyn-derfynol.