Person wedi marw ar ôl cael eu taro gan dren yn y Pîl
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau trên rhwng Caerdydd ac Abertawe wedi eu gohirio fore Llun wedi i berson gael eu taro gan drên.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw i ddigwyddiad yng ngorsaf Y Pîl am 05.27am.
Dywedodd yr heddlu: "Cafodd meddygon o Wasanaethau Ambiwlans y Canolbarth a'r Gorllewin eu galw i'r digwyddiad ond cafodd y person eu darganfod yn farw ar y safle."
Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus ar hyn o bryd.
Tren o Abertawe i Paddington yn Llundain gafodd ei effeithio.
Dywedodd yr heddlu bod Network Rail wedi cymryd cyfrifoldeb dros y linell am tua 06.50am fore Llun.
Mae'r linnell wedi ail-agor, ond bydd rhai newidiadau i wasanaethau ac ni fydd trenau yn galw yng ngorsaf Y Pîl.