Dynes 'agoraffobig' yn euog o dwyll budd-daliadau

  • Cyhoeddwyd
Tracey JohnsonFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Tracey Johnson wedi teithio i'r Ariannin, Efrog Newydd, Madrid ac India tra'n hawlio budd-daliadau

Cafwyd dynes, oedd wedi teithio'r byd er ei bod hi wedi honni iddi ddioddef o agoraffobia, yn euog o hawlio bron £50,000 o fudd-daliadau yn anghyfreithlon.

Roedd Tracey Johnson, 52 oed, wedi honni ei bod yn ofni llefydd agored ac nad oedd hi wedi gadael y DU ers blynyddoedd.

Yn Llys y Goron Merthyr Tudful fe'i cafwyd yn euog o 13 o gyhuddiadau, gan gynnwys twyll, gwneud sylwadau anwir a methu rhoi gwybod am newid amgylchiadau rhwng Ionawr 2008 a Gorffennaf 2012.

Roedd Ms Johnson o Frome yng Ngwlad yr Haf yn hawlio budd-daliadau o gartref ei mam yn Llanfair ym Muallt, Powys. Hawliodd gyfanswm o £48,000 o fudd-daliadau

Clywodd y llys ei bod hi'n byw bywyd moethus a'i bod wedi teithio i'r Ariannin, Efrog Newydd a Madrid.

Wedi ei thaith i India roedd wedi wedi derbyn taliadau tywydd oer wrth i'r tymheredd ym Mhowys ddisgyn o dan y rhewbwynt ac wedi honni nad oedd wedi mynd i wlad dramor.

Dywedodd y Cofiadur Andrew Grubb y dylai Ms Johnson ddisgwyl dedfryd o garchar.

"Mae cyfnod dan glo yn debygol o ddilyn. Pa mor hir fydd hynny ni allaf ddweud ar hyn o bryd."

Mae disgwyl i Ms Johnson gael ei dedfrydu o fewn wythnosau.