Coeden yn disgyn: Cadarnhau enw
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn wedi i goeden ddisgyn arno yn Llanfachreth ger Dolgellau ddydd Sul.
Mae'r crwner wedi cadarnhau'n swyddogol mai Arwel Rhys Thomas oedd y dyn. Roedd yn 51 oed ac yn byw yn Llanfachreth.
Newydd ddechrau y mae ymchwiliad y crwner i'r digwyddiad, ac ni roddwyd achos y farwolaeth hyd yma.
Fe gafodd yr heddlu a chriw ambiwlans eu gyrru i'r safle, ac fe aeth tîm arbenigol o'r Gwasanaeth Tân o Gaernarfon yno hefyd, ond ni lwyddwyd i achub y dyn.
Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd bod dyn wedi marw yn Llanfachreth, gan ychwanegu bod teulu'r dyn wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Fe gawson ni'n galw am 12:19yh yn dilyn adroddiadau bod dyn yn sownd o dan goeden yn Llanfachreth."