Apêl o'r newydd wedi dwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn apelio o'r newydd am wybodaeth am ddyn a ddiflannodd union ddwy flynedd yn ôl.
Daeth adroddiadau bod Trevor Elias, 77 oed o Abertridwr ger Caerffili, ar goll ar Ebrill 7, 2012.
Dangosodd ymchwiliad yr heddlu ar y pryd luniau teledu cylch cyfyng ohono yn oriau man y bore cynt, Ebrill 6, yn cerdded heibio'r senotaff yn Senghennydd cyn mynd i gyfeiriad Abertridwr.
Wrth iddo gerdded ar hyd Commercial Street, credir bod tri cherbyd a dyn arall wedi pasio Mr Elias.
Cafodd Mr Elias ei ddisgrifio fel dyn tua 6'0" o daldra ac o gorff main a gwallt byr brown. Mae'n gwisgo sbectol.
Y Ditectif Uwch-arolygydd Ian Roberts sy'n goruchwylio'r ymchwiliad, a dywedodd:
"Ddwy flynedd ymlaen a dydyn ni ddim agosach o ganfod beth ddigwyddodd i Trevor ers iddo gael ei weld ddiwethaf.
"Mae nifer o adolygiadau wedi cael eu cynnal ers iddo fynd ar goll, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarganfod beth ddigwyddodd iddo.
"Rydym yn apelio ar aelodau'r gymuned i edrych ar y lluniau CCTV ac rwy'n siŵr y bydd rhywun yn adnabod y lluniau o bobl a cherbydau.
"Rydym yn credu bod tri cherbyd wedi ei basio ar y ffordd a bod pobl eraill - dwy fenyw oedd yn cerdded o'i flaen ac un dyn oedd yn cerdded i'r cyfeiriad arall gan ddefnyddio ffôn symudol - wedi ei weld o bosib."
Os oes gan unrhyw un wybodaeth am Mr Elias ar y noson honno neu ers hynny, mae Heddlu Gwent yn gofyn iddyn nhw eu ffonio ar 101.
Straeon perthnasol
- 7 Mai 2012
- 21 Ebrill 2012