Becws Avana i gau gan golli 650 swydd
- Cyhoeddwyd

Mae perchnogion becws Avana yng Nghasnewydd wedi cadarnhau y bydd y safle'n cau gan arwain at 650 o ddiswyddiadau o bosib.
Roedd pryder am y swyddi wedi i'r perchnogion - Cwmni 2 Sisters - gyhoeddi cyfnod ymgynghori ar ddyfodol y safle.
Fore Llun daeth datganiad gan y cwmni sy'n dweud:
"Gyda gofid fe allwn gadarnhau ein bod yn cau ein safle Becws Avana yng Nghasnewydd yn dilyn cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod.
"Yn ystod yr ymgynghoriad fe wnaethon ni ystyried pob dewis ers i ni golli cytundeb gan brif gwsmer y safle. Yn anffodus nid ydym wedi gallu canfod ffordd o gadw'r safle yn hyfyw.
"Ein blaenoriaeth nawr yw lleihau nifer y diswyddiadau gorfodol drwy chwilio am rai gwirfoddol a symud gweithwyr i safleoedd eraill.
"Byddwn hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Waith a Staffline i chwilio am gyfleoedd i'n cydweithwyr y tu allan i'r busnes.
"Fe fyddwn nawr yn gweithio gyda'n cydweithwyr a'n cwsmeriaid i weithredu cau'r safle fesul dipyn, ac rydym yn rhagweld y bydd hynny wedi gorffen erbyn yr haf."
Eisoes mae cynrychiolydd o undeb y BFAWU (Bakers Foods and Allied Workers) wedi mynegi anfodlonrwydd gyda'r penderfyniad, gan ddweud bod gobaith y gallai'r ffatri fod wedi ennill cytundeb arall ar ôl colli'r cytundeb gyda Marks & Spencer ym mis Chwefror.
'Ergyd ofnadwy'
Aelod Cynulliad yr ardal yw'r Fonesig Rosemary Butler, a dywedodd:
"Mae'r newyddion bod becws Avana wedi cadarnhau y bydd yn cau gyda cholled 650 o swyddi yn ergyd ofnadwy i bawb, yn enwedig yn dilyn yr awgrym yr wythnos ddiwethaf bod archebion posib ar fin cyrraedd.
"Mae'n ddiwrnod trist i'r gweithlu ffyddlon ac i Gasnewydd i gyd. Mae'r busnes wedi bod yn rhan o'r gymuned leol ers blynyddoedd lawer ac rwy'n siomedig nad oedd Avana wedi llwyddo i sicrhau cytundeb newydd i ddiogelu'r dyfodol.
"Byddaf yn cysylltu â'r Gweinidog i sicrhau bod pob cyngor a chefnogaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru i'r rhai sydd wedi'u heffeithio."
Fe ddywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, fod hon yn "ergyd drom i'r unigolion a'r teuluoedd sydd wedi'u heffeithio.
"Mae'n weithred o anniolchgarwch yn dilyn blynyddoedd o wasanaeth o safon yn y diwydiant.
"Mae cryn waith wedi ei wneud i geisio osgoi gorfod cau'r safle, ac mae'n hynod siomedig nad yw'r gwaith hwnnw wedi llwyddo."
'Hynod o drist'
Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, "mae'n hynod o drist clywed y bydd becws Avana yng Nghasnewydd yn cau.
"Yn naturiol, fe fydd gweithwyr y cwmni a'u teuluoedd yn poeni'n fawr gan ei bod hi'n bosib yn bydd nifer sylweddol o swyddi'n cael eu colli...
"Rydym ni wedi ein hymrwymo i weithio gydag Avana, Llywodraeth Cymru a'r Ganolfan Waith, i gynnig pob cefnogaeth yn ystod yr amser anodd hwn.
"Dylai gweithwyr sydd wedi eu heffeithio gan y cyhoeddiad heddiw gysylltu â'r Ganolfan Waith er mwyn derbyn cyngor a chymorth pellach."
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2014