Dathlu traddodiad cwrw Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Wrth i daith gwrw arbennig gael ei chynnal o amgylch rhai o dafarndai Sir y Fflint y penwythnos hwn, mae Newyddion Ar-lein wedi bod yn edrych ar hanes y diwydiant bragu yn yr ardal.
Mae taith y Real Ale Trail yn cynnwys ymweliadau â thafarndai tref Yr Wyddgrug, yn ogystal â nifer o bentrefi fel Babell ac Afonwen.
Mae'r hanesydd lleol, David Rowe, wedi ysgrifennu am dafarndai a bragwyr Sir y Fflint dros y blynyddoedd.
"Dechreuodd llawer o fragu mewn tai preifat," esboniodd.
"Mae'r enw Tafarn y Celyn yn deillio o'r ffaith y byddai pobl yn bragu yn y tŷ, ac yna yn rhoi sbrigyn o gelyn neu rywbeth tebyg y tu allan fel arwydd bod cwrw ar gael yno.
"Y cam nesa' oedd datblygiad yn nifer y tafarndai a gwestai ac i ddechrau roedden nhw'n bragu eu cwrw eu hunain yng nghefn yr adeilad.
"Wedi hynny datblygodd bragdai ar gyfer trefi, lle byddai un neu ddau fragdy yn cyflenwi cwrw ar gyfer holl dafarndai'r dref.
"Yna daeth y bragdai rhanbarthol, megis bragdy Santes Gwenffrewi yn Nhreffynnon, bragdy Celstryn yn Y Fflint a bragdy Gorllewin Sir Caer, a oedd mewn gwirionedd yn Stryd Newydd yn Yr Wyddgrug.
"Mewn amser cafodd y bragdai yma eu cymryd drosodd gan gwmnïau mawr rhyngwladol, ond nawr rydyn ni'n gweld rhai bragdai bychain sy'n gwneud cwrw go iawn yn dechrau eto.
"Yn Sir y Fflint mae gennym o leiaf ddau hyd y gwn i.
"Tua diwedd y 19eg ganrif oedd y cyfnod prysuraf i fragdai, ond cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf bu ymgyrch i geisio lleihau'r nifer.
"Roedd meddwdod yn gallu bod yn broblem," meddai.
"Dros y blynyddoedd bu 70 o wahanol dafarndai yn Yr Wyddgrug, heb sôn am drefi a phentrefi eraill Sir y Fflint.
"Un o'r hynaf yw'r Glan-yr-Afon ym mhentref Dolphin ger Treffynnon.
"Mae sôn am y dafarn yma'n bodoli yn 1559 ac mae'n dal i fod yno heddiw.
"Un arall yw'r Druid Inn yn Yr Orsedd lle mae rhan o'r adeilad yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif."
Nid yw Sir y Fflint yn anarferol o ran nifer y bragdai yno, yn ôl Mr Rowe.
Roedd niferoedd tebyg i'w gweld yn siroedd eraill Cymru hefyd ac mae rhai, fel cwmni Wrexham Lager, wedi cael adfywiad yn ddiweddar.
Daeth y broses o fragu yn Wrecsam i ben yn 2000 ond ailddechreuodd yn 2011.
Yn ôl y sôn, roedd y cwrw yn cael ei werthu ar y Titanic.
Mae Mark Roberts, rheolwr gyfarwyddwr Wrexham Lager, yn dweud ei fod dyn busnes o Awstralia, sy'n adeiladu llong debyg i'r Titanic yn China, yn gobeithio gallu gwerthu'r cwrw ar y llong honno hefyd.
Straeon perthnasol
- 6 Gorffennaf 2013
- 22 Gorffennaf 2012
- 1 Tachwedd 2012