Llyfr y Flwyddyn yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Logo Llyfr y Flwyddyn
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd y seremoni'n cael ei chynnal nos Iau, Gorffennaf 10.

Fe fydd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon eleni.

Yn Galeri yn ardal Doc Fictoria nos Iau, Gorffennaf 10, fe fydd Llenyddiaeth Cymru'n datgelu pa deitlau ar y rhestrau byrion Cymraeg a Saesneg a gaiff eu henwi'n Llyfr y Flwyddyn 2014.

Yn y seremoni fe gyhoeddir enillwyr y categorïau Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol yn Gymraeg ac yn Saesneg, a pha lyfrau sy'n cipio'r teitlau Llyfr y Flwyddyn Cymraeg 2014, a Llyfr y Flwyddyn Saesneg 2014.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn siec o £2,000, a'r prif enillydd ym mhob iaith yn derbyn gwobr o £6,000 ychwanegol.

Caiff enillydd y categori Barddoniaeth yn Saesneg ei enwi yn enillydd y Roland Mathias Poetry Award.

Yn beirniadu'r llyfrau Cymraeg eleni mae'r awdur ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2008, Gareth Miles, y bardd Eurig Salisbury, a'r awdur a'r blogiwr Lowri Cooke.

Ar y panel Saesneg mae'r darlithydd Andrew Webb, yr awdur a'r newyddiadurwr Jasper Rees, a'r comedïwr Nadia Kamil.

Rhestr Fer

Caiff rhestr fer naw llyfr Cymraeg a naw llyfr Saesneg ei chyhoeddi trwy ddarllediad ar-lein arbennig ar y cyd â'r rhaglen gelfyddydau Pethe, ddydd Gwener Mai 9, a gellir ei wylio'n fyw ar wefan Llyfr y Flwyddyn.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch fod un o ganolfannau diwylliant pwysig Cymru yn gartref newydd i Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn eleni.

"Mae'n hollbwysig fod Llyfr y Flwyddyn yn cael ei gweld fel gwobr i ddarllenwyr Cymru gyfan, ac mae'r newid hwn o gael Seremoni Wobrwyo teithiol yn gam ychwanegol tuag at y nod hwnnw."