Damwain ar yr A479: dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni gydag anafiadau difrfiol i'w ben oherwydd damwain yn ardal Talgarth ym Mhowys.
Tarodd car y dyn, Ford Ranger, yn erbyn coeden.
Digwyddodd y ddamwain am 10 nos Wener ar yr A479 rhwng Cwmdu a Thalgarth.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.