Ai Llanfairpwll fydd 'pentref di-fwg' cynta' Ewrop?
- Cyhoeddwyd

Mae Llanfairpwll ar Ynys Môn yn hawlio mai nhw yw'r pentref di-fwg cynta' yn Ewrop.
Gobaith y bobl sydd wrth wraidd yr ymgyrch yw y bydd y cynllun yn arwain at awyrgylch iachach yn y pentref.
Ni fydd y cynllun yn cael ei blismona, sy'n golygu na fydd cosb i bobl sy'n penderfynu anwybyddu'r cynllun, ond mae'r trefnwyr yn ffyddiog y bydd pobl leol yn gweld budd i'r fenter.
Yn ôl y cyngor, roedd 95% o'r bobl gafodd eu holi ynghylch y cynllun yn ei gefnogi.
'Angen newid diwylliant'
Mae Cyngor Ynys Môn, Cyngor Cymuned Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ash Cymru wedi gweithio gyda'i gilydd i godi posteri ger mannau cyhoeddus a thu allan i fusnesau yn y pentref i annog pobol i beidio ysmygu.
Luned Edwards sy'n cyd-lynu'r prosiect ar ran Cyngor Ynys Môn, a dywedodd hi: "Rydym yn gobeithio y bydd y gymuned leol yn annog trigolion ac ymwelwyr i beidio ag ysmygu mewn ardaloedd cyhoeddus.
"Dylai fod o fudd hefyd i sefydliadau busnes a thwristiaeth, yn arbennig felly i sefydliadau arlwyo.
"Wrth gwrs, ni fydd Llanfairpwll yn mynd yn gwbl ddi-fwg dros nos.
"Mae angen newid diwylliant yn raddol, a bydd hynny'n cymryd amser. Serch hynny, rydym yn hyderus y gellir cyflawni'r nod o gofio'r gefnogaeth gref yn lleol."
Peryglon ysmygu ail law
Mae'r niwed mae mwg sigaréts yn ei gael ar iechyd pobl wedi ei ddogfennu'n dda ac ysmygu yw un o'r prif bethau sy'n achosi i bobl farw o flaen eu hamser.
Nid ar ysmygwyr yn unig mae 'na effaith, yn ôl cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Andrew Jones:
"Mae gwaith ymchwil yn dangos fod plant sydd wedi anadlu mwg ail-law yn fwy tebygol o ddatblygu salwch yn ystod eu plentyndod, gan gynnwys asthma.
"Mae tystiolaeth gadarn sydd yn dangos bod plant mewn rhannau eraill o'r byd, fel Melbourne a California, eisoes wedi gweld manteision mannau cyhoeddus di-fwg ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, gyda chwymp hefyd yn nifer y bobl sy'n ysmygu.
"Mae gan hyn effaith bositif ar iechyd y boblogaeth yn gyffredinol hefyd."
Gosod esiampl
Mae Elen de Lacy, o Ash Cymru, yn dweud ei bod hi'n gobeithio gweld "cynghorau eraill yn dilyn esiampl Cyngor Môn".
Ychwanegodd: "Bydd mannau cyhoeddus awyr agored Llanfairpwll nawr yn cynnig amgylchedd mwy dymunol i bawb, yn enwedig plant a phobl ifanc, ac yn eu hamddiffyn rhag niwed mwg ail-law a sbwriel sigaréts."
Yn ôl amcangyfrifon, mae'r gost o drin effaith ysmygu yng Nghymru dros £350 miliwn y flwyddyn ond mae costau eraill hefyd ynghlwm wrth yr arferiad.
Un o'r rhain yw'r gost o lanhau'r llanast sy'n cael ei achosi gan nwyddau tybaco - £25 miliwn arall bob blwyddyn.
Bydd y cynllun yn cael ei lansio yn Ysgol Llanfairpwll gan Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, am 2:30yh, ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- 12 Mawrth 2014
- 3 Medi 2013
- 15 Mai 2013