Gwrthdrawiad ym Môn: Dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn damwain oedd yn ymwneud ag un cerbyd yn unig ar yr A55 yn Ynys Môn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar ochr orllewinol y ffordd, ger Pont Britannia, am oddeutu 1:45 y prynhawn.
Defnyddiodd y swyddogion offer torri er mwyn rhyddhau'r dyn o'i gar.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Cafodd dau gerbyd ymateb brys ac ambiwlans argyfwng eu galw i'r digwyddiad a chafodd dyn yn ei chwedegau ei gludo i'r ysbyty."