Busnesau Cymru'n 'hyderus' am y dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Arian

Mae busnesau yng Nghymru yn teimlo'n fwyfwy hyderus ynglŷn â'r economi, gyda nifer ohonynt yn disgwyl creu swyddi newydd a chynnydd mewn elw.

Am y tro cyntaf mae adroddiad gan Siambr Fasnach De Cymru'n cynnwys manylion am fusnesau ymhob rhan o Gymru.

Mae eu canfyddiadau wedi eu seilio ar 660 o ymatebion allan o 1,200 o aelodau.

Roedd 60% o'r rheiny'n disgwyl gweld cynnydd mewn elw'r flwyddyn nesaf, ac roedd y mwyafrif llethol yn bwriadu cadw'r un nifer o staff neu gyflogi mwy.

Ond nid yw'r busnesau'n credu bob popeth yn debygol o wella - maen nhw'n dweud nad yw allforion o Gymru yn cynyddu fel y maen nhw yng ngweddill Prydain.

Yn ogystal, roedd dros hanner o'r ymatebion yn dweud fod problemau mewn recriwtio pobl gyda sgiliau allweddol ym meysydd peirianneg a thechnoleg gwybodaeth.

Dywedodd Graham Morgan, cyfarwyddwr Siambr Masnach De Cymru: "Gyda'r ymateb gorau erioed i'n arolwg, gan gynnwys busnesau o ogledd Cymru am y tro cyntaf, rydym yn teimlo'n ffyddiog fod cyfleoedd am gynnydd ar y ffordd i fusnesau Cymreig.

"Ond, fel sy'n wir bob tro, mae mwy o waith i'w wneud, ac os yw'r adferiad economaidd am barhau does dim lle i laesu dwylo."