Gwasanaethau trên newydd i'r canolbarth

  • Cyhoeddwyd
Tren
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y gwasanaethau newydd yn cael eu treialu am gyfnod o dair blynedd

Bydd trenau'n rhedeg bob awr rhwng Aberystwyth a'r Amwythig o fis Mai 2015 yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart, bydd y gwasanaethau newydd yn creu 20 o swyddi newydd, ar drenau ac mewn swyddfeydd.

Ar linell y Cambrian bydd pedwar gwasanaeth newydd yn rhedeg rhwng y ddwy dref o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gyda threnau'n mynd bob awr ar yr adegau prysuraf.

Bydd gwelliannau i'r gwasanaeth gyda'r nos hefyd, ar y llinell honno ac ar linell yr arfordir rhwng Pwllheli a Bermo.

Yn ogystal bydd gwasanaethau ychwanegol yn cael eu cyflwyno rhwng Llanymddyfri, Tregŵyr ac Abertawe a rhwng Llandrindod, Amwythig a Crewe rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Mi fydd newidiadau mân i wasanaethau eraill er mwyn hwyluso siwrneiau, a bydd Fforwm Rheilffordd Calon Cymru yn derbyn £150,000 er mwyn edrych ar sut gall wasanaethau wella ymhellach.

'Galw clir'

Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd Ms Hart: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i sicrhau'r gwasanaethau trên ychwanegol ar y ddwy reilffordd boblogaidd yma.

"Comisiynwyd arolwg gennyf yn ddiweddar sy'n dangos yn glir y manteision i deithwyr, busnesau lleol a myfyrwyr prifysgol, o gael gwasanaeth bob awr ar reilffordd y Cambrian.

"Mae galw clir hefyd am ragor o wasanaethau ar Reilffordd Calon Cymru hefyd a bydd y gwelliannau hyn yn golygu y bydd teithiau cymudo i Abertawe ar y rheilffordd hon yn bosibl am y tro cyntaf.

"Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n ffordd hanfodol i nifer o bobl, gan gynnwys rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, o sicrhau swyddi a gwasanaethau."

Croeso'r brifysgol

Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro April McMahon, a ddywedodd:

"Mae hyn yn newyddion gwych i bawb sy'n gysylltiedig ag Aberystwyth a'r ardal gyfagos. Mae'r llinell o Aberystwyth i'r Amwythig yn darparu cyswllt cludiant hanfodol ar gyfer miloedd lawer o fyfyrwyr o bob rhan o'r DU ac yn arbennig o Ganolbarth Lloegr, sy'n dewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Mae Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad rhyngwladol sy'n denu myfyrwyr o fwy na 90 o wledydd ac mae academyddion blaenllaw yn teithio yma o bob cwr o'r byd yn gyson.

"Mae gwasanaeth trên rheolaidd a dibynadwy yn hanfodol ar gyfer y Brifysgol wrth iddi ymdrechu i adeiladu ar ei lwyddiant mewn byd sy'n gynyddol gystadleuol.

"Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau o Bwyllgor Cyswllt Rheilffordd yr Amwythig i Aberystwyth, sy'n cynnwys aelodau o Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, a gasglodd y dystiolaeth o'r galw potensial ar gyfer y gwasanaethau newydd hyn a fu mor ddylanwadol wrth sicrhau'r buddsoddiad hwn a gyhoeddwyd heddiw."