Dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd ger Pwllheli nos Lun.
Roedd dau gerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, ac fe gredir bod un ohonyn nhw wedi mynd ar dân.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A499 ddim ymhell o Ysbyty Bryn Beryl ar gyrion y dref.
Fe gafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad. Does dim manylion am eu cyflwr wedi eu cyhoeddi hyd yma, ond deellir bod un dyn wedi diodde' anafiadau i'w asgwrn cefn.