379 o achosion o'r dwymyn goch
- Cyhoeddwyd

Fe ddywed Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod bellach wedi cofnodi 379 o achosion o'r dwymyn goch (scarlet fever) yng Nghymru yn 2014.
Dim ond 186 o achosion a gofnodwyd trwy gydol 2013, felly mae dwywaith cymaint o achosion eleni ac oedd yna drwy'r flwyddyn ddiwethaf.
Y tro diwethaf i ICC gyhoeddi ffigyrau - ar Fawrth 11 - roedd 139 o achosion yng Nghymru, felly mae'r nifer wedi mwy na dyblu mewn pedair wythnos.
Bryd hynny roedd mwyafrif yr achosion yn ardal Abertawe, ond does dim manylion ardal na rhanbarth wedi'u cyhoeddi hyd yma y tro hwn.
Mae mwy o achosion o'r clefyd wedi eu cofnodi yn Lloegr eleni nac mewn unrhyw flwyddyn ers i gofnodion ddechrau yn 1982.
Mae symptomau'r dwymyn goch yn cynnwys dolur gwddf, twymyn a brech lachar ysgarlad neu goch - mae'n heintus iawn ac yn cael ei drin gyda gwrthfiotigau.
Gall unrhyw un sydd eisiau triniaeth neu wybodaeth bellach gysylltu â'u meddyg teulu.
Straeon perthnasol
- 21 Mawrth 2014