Golff: Gobeithion dau Gymro yn Augusta

  • Cyhoeddwyd
Ian WoosnamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ian Woosnam wedi cystadlu ym Mhencampwriaeth Meistri'r Unol Daleithiau ers dros chwarter canrif

Fe fydd cinio arbennig yn cael ei gynnal yng nghlwb golff Augusta yn yr Unol Daleithiau nos Fawrth, ac fe fydd pawb yno'n gwisgo siaced werdd.

Dyma yw cinio blynyddol enwog Pencampwyr Meistri America, ac mae un Cymro wedi bod yn gwledda bob blwyddyn ers 1991 - dyna'r flwyddyn y cipiodd Ian Woosnam y bencampwriaeth.

Yn ogystal â gwahoddiad blynyddol i'r cinio, mae ennill y bencampwriaeth yn gwarantu lle yn y gystadleuaeth bob blwyddyn am byth, felly fe fydd Woosnam yn ôl yn Augusta ddydd Iau i drio'i lwc.

'Uchafbwynt'

Ond ag yntau bellach yn 56 oed, mae'r golffiwr o Bowys yn realistig gyda'i obeithion.

"Mae'r cinio yn uchafbwynt," meddai, "ac mae'n rhaid i chi fod yno. Mae'r pencampwyr i gyd yno - Jack Nicklaus, Arnold Palmer, Gary Player - yn enwogion i gyd.

"Dwi'n ffodus iawn o gael mynd yn ôl a chwarae'r gystadleuaeth am weddill fy oes, ond mae'n mynd i fod yn anodd.

"Dyma fydd pencampwriaeth gynta'r flwyddyn i mi, ac er nad oes pwysau arnaf mae'n rhaid meddwl am yr embaras posib.

"Dydw i ddim am fynd allan a sgorio 85 - ond fy uchelgais yw cymhwyso i'r ddwy rownd olaf."

Fe fydd hynny'n dipyn o gamp i ddyn sydd wedi diodde' gyda thrafferthion gyda'i gefn gydol ei yrfa bron, a dyw e ddim wedi llwyddo i aros tan y penwythnos ers 2008.

'Y lefel nesaf'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Daeth Jamie Donaldson yn ail ym Mhencampwriaeth WGC-Cadillac y byd yn gynharach eleni

Ond mae'n galondid i Woosnam fod Cymro arall yn y gystadleuaeth eto eleni, ac mae'r hen ben yn credu fod gan Jamie Donaldson y gallu i roi Cymru ar y map golff unwaith eto.

Dywedodd Woosnam: "Mae'n wych gweld Jamie yn gwneud mor dda ar hyn o bryd. Mae'n gallu symud y bêl o'r dde i'r chwith yn dda, ac mae hynny'n bwysig ar y cwrs yma.

"Mae e wedi symud ymlaen i'r lefel nesaf. Fe fyddai'n ceisio cadw fyny gydag e a chynnig gair bach o gyngor, neu dwi wastad yma os ydi e eisiau gair."

Fe greodd Donaldson gryn argraff yn ei ymgais gyntaf yn Augusta yn 2013. Sgoriodd y Cymro o Bontypridd dwll-mewn-un yn ei rownd gyntaf gan greu penawdau o gwmpas y byd.

Er hynny methodd â chymhwyso i'r ddwy rownd olaf o un ergyd yn unig, ac fe fydd yn gobeithio gwella ar hynny eleni.

Pwy yw'r gorau?

Mae Donaldson yn arwain cylchdaith Ewrop ar hyn o bryd, ac mae'n teithio i Augusta ar ôl gorffen yn ail ym mhencampwriaeth WGC-Cadillac y Byd a chystadlu yng Nghwpan EurAsia heb golli gêm.

Mae Ian Woosnam yn cael ei gydnabod gan lawer fel y golffiwr gorau erioed o Gymru.

Mae llawer hefyd yn darogan y bydd Donaldson yn dwyn y teitl yna yn fuan, ond bydd yr hen feistr yn benderfynol o beidio ildio'i fantell tan yr wythnos nesaf o leia'.