Heddlu'n ymchwilio digwyddiad amheus yn ardal Pen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ymchwilio i ddigwyddiad amheus yn ardal Sarn ddydd Sadwrn diwethaf, Ebrill 5.
Dywedodd dwy ferch, pump a naw oed, bod dyn wedi mynd atynt gan gyffwrdd â braich un o'r ddwy yn Jubilee Crescent.
Ni chafodd yr un o'r ddwy ferch fach anaf, ac fe adawodd y dyn yn fuan wedyn.
Er hynny dywedodd y Ditectif Arolygydd Sue Sidford: "Er na chafodd neb niwed yn y digwyddiad yma rydym yn dal i'w drin fel digwyddiad difrifol.
"Mae gennym fwy o swyddogion ar batrôl yn yr ardal er mwyn tawelu ofnanu'r trigolion, ac rydym am glywed gan unrhyw un allai fod wedi gweld rhywbeth amheus yn ardal Jubilee Crescent am tua 8:00yh ddydd Sadwrn diwethaf."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw drwy ffonio Heddlu'r De ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111 gan nodi'r cyfeirnod 1400115873.