Croeso i adroddiad rheilffyrdd

  • Cyhoeddwyd
Trenau gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Dywed adroddiad Syr David Higgins y dylai cynllun HS2 fod o fudd i ardaloedd cyfagos megis gogledd Cymru

Mae arweinyddion awdurdodau gogledd Cymru wedi croesawu adroddiad ar ddyfodol rheilffyrdd gan Syr David Higgins sy'n awgrymu bydd lein y gogledd yn cael ei gwella.

Byddai'r gwaith yn dod yn sgil cynllun HS2 i alluogi trenau cyflym i deithio i ogledd-orllewin Lloegr.

Un o argymhellion yr adroddiad yw dod ag HS2 i Crewe erbyn 2027 a gwella'r cysylltiadau oddi yno ar hyd gogledd Cymru.

Rhannu'r cyfoeth

Mewn datganiad ar y cyd rhwng Bwrdd Arwain Rhanbarth y Gogledd a'r chwe awdurdod lleol rhwng Ynys Môn a Wrecsam, dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts o Gyngor Conwy:

"Amcan Bwrdd Arwain Rhanbarth y Gogledd a chwe chyngor lleol y rhanbarth yw trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Crewe a Chaergybi yn ystod Cyfnod Rheoli 6 Network Rail (2019 - 2024) cyn y bydd Prosiect HS2 yn cael ei gwblhau.

"Felly, mae pob un o chwe chyngor y gogledd yn croesawu argymhellion adroddiad Syr David Higgins, 'HS2 Plus', y dylai Prosiect HS2 gyrraedd Crewe erbyn 2027 ac y dylai'r rheilffyrdd i ogledd Cymru gael eu gwella."

Fe ddywed adroddiad Syr David Higgins bod angen i economi'r DU fod yn gytbwys, gan rannu'r cyfoeth trwy'r deyrnas i gyd yn enwedig y rhannau gogleddol.

Pwrpas cynllun HS2 yw gwella'r cysylltiadau rheilffordd i Fanceinion, Lerpwl, Leeds a Hull ond mae siroedd y gogledd yn gweld potensial iddyn nhw hefyd.

'Rhwydwaith yr orlawn'

Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts, sydd hefyd yn arweinydd Cyngor Conwy, y gallai argymhellion yr adroddiad fod o les uniongyrchol i ogledd Cymru, gan ddweud:

"Rydyn ni'n cytuno â chynigion sylfaenol yr adroddiad:

  • Mae rhwydwaith y rheilffyrdd yn orlawn ar hyn o bryd ac mae angen atebion arloesol a llawer o fuddsoddi i'w alluogi i gynnal twf economaidd ac ansawdd bywydau;
  • Mae isadeiledd cludiant yn hanfodol i swyddi. Rydyn ni o'r farn bod isadeiledd cludiant y gogledd yn hen ac yn rhwystro'r economi rhag tyfu. Dylai fod cysylltiadau gwell â gweddill y DU er twf economaidd yn y dyfodol;
  • Rhaid i Network Rail gynnwys Prosiect HS2 wrth gynllunio'n strategol ar gyfer rhwydwaith ehangach y deyrnas, yn arbennig yn y rhannau gogleddol lle dylai flaenoriaethu buddsoddi yn y rheilffyrdd sy'n cysylltu ag HS2 (megis y rheilffordd rhwng Crewe a Chaergybi);
  • Fe ddylai gwaith gwella'r rheilffyrdd rhwng Lerpwl, Manceinion, Leeds a Hull fod yn rhan o Brosiect HS2 am y bydd yn helpu i adfywio economi gogledd Lloegr ac ardaloedd cyfagos megis gogledd Cymru;
  • Dylai Prosiect HS2 fod yn rhan o gynlluniau adfywio awdurdodau lleol gogledd Lloegr a gogledd Cymru (gyda chymorth Llywodraeth Cymru)."

Er nad yw adroddiad Syr David Higgins yn son yn benodol am drydaneiddio lein y gogledd, dyna yw prif amcan y Bwrdd sy'n dadlau bod angen gwella'r cysylltiad gyda Crewe (ar gyfer HS2) a Manceinion (ar gyfer HS2 a'r rhwydwaith gogleddol i gyd).

Mae disgwyl i Fwrdd Arwain Rhanbarth y Gogledd gyhoeddi eu cynghorion llawn maes o law, ond yn y cyfamser maen nhw wedi argymell yr adroddiad i lywodraeth San Steffan ac i Lywodraeth Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol