Gofal babanod: Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ôl Pasg?
- Cyhoeddwyd

Rhaid dod â'r ansicrwydd am ddyfodol gwasanaeth gofal dwys babanod newydd-anedig yng ngogledd Cymru i ben, yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AC.
Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones wneud penderfyniad ar leoliad canolfan newydd i fabanod newydd-anedig i'r gogledd wedi i banel annibynnol gyhoeddi adroddiad ar y mater yr wythnos ddiwetha'.
Cyhoeddodd Mr Jones gynlluniau ar gyfer canolfan o'r fath fis Tachwedd y llynedd, gan ddweud y gallai gael ei leoli naill ai yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, neu yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.
Yn ôl Mr Millar, mae angen i ferched beichiog a gweithwyr iechyd gael gwybod beth sy'n digwydd.
Meddai: "Mae'n amser i Carwyn Jones ddod â'r ansicrwydd i ben a chyhoeddi ble bydd y ganolfan newydd.
"Rwy'n ei annog i wneud penderfyniad ar fyrder, gan fod dyfodol gwasanaethau babanod yng ngogledd Cymru wedi bod yn ansicr yn rhy hir.
"Rwan bod y panel annibynnol wedi adrodd yn ôl, does dim angen oedi ymhellach.
"Mae'r saga yma wedi rhygnu 'mlaen am ormod o amser yn barod."
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Bydd y Prif Weinidog yn gwneud cyhoeddiad ar ôl gwyliau'r Pasg, wedi iddo ystyried yr adroddiad yn fanwl."
Straeon perthnasol
- 28 Mawrth 2013
- 21 Chwefror 2013
- 12 Tachwedd 2013