Cyngor Sir Ddinbych: Deiseb cyflog yn 'camddehongli'

  • Cyhoeddwyd
Dr Mohammed MehmetFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Mohammed Mehmet wedi bod yn ei swydd fel prif weithredwr ers 2009

Mae'r rhai sydd wedi dechrau deiseb yn gwrthwynebu codi cyflog prif weithredwr Cyngor Sir Dinbych, Mohammed Mehmet, wedi "camddehongli" sut mae'n cael ei dalu, yn ôl y cyngor.

Fore Mawrth, bu'r cyngor llawn yn trafod cyflogau eu gweithwyr, gan gynnwys Mr Mehmet.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y cyngor nad oedd telerau cyflog Mr Mehmet wedi newid, a bod y ffigyrau mae'r ddeiseb yn cyfeirio atyn nhw yn deillio o'r cytundeb a gafodd Mr Mehmet wrth ddechrau ar ei swydd yn 2009, oedd yn nodi y byddai cyflog y prif weithredwr yn gysylltiedig â'i berfformiad yn y swydd.

Ychwanegodd y cyngor fod yr honiad fod Mr Mehmet am gael codiad cyflog rhwng 5% a 12% yn "gamddehongliad".

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Mae cyflog y prif weithredwr yn aros yr un fath, ar £125,000. Ond wrth gyflogi'r prif weithredwr mewn cyfarfod ar Ebrill 7, 2009, cytunodd y cyngor y dylai'r pwyllgor taliadau gael pwerau i benderfynu ar lefel unrhyw daliadau ychwanegol ar sail perfformiad y prif weithredwr yn ei swydd.

"Wrth gyflawni amcanion, byddai modd codi'r cyflog rhwng 5% a 12%.

"Felly nid yw'r taliad, sy'n gysylltiedig â pherfformiad, ddim yn awtomatig ac mae angen i'r prif weithredwr gael sgôr o fwy na phedwar ar gyfartaledd, sy'n golygu y byddai angen iddo fynd y tu hwnt i'r amcanion yn rheolaidd. Er y gall y panel gwobrwyo ddyfarnu y dylid talu mwy does dim rheidrwydd y bydd y prif weithredwr yn cael mwy o arian yn awtomatig."

Cafodd y ddeiseb ei chyhoeddi ar y we'r wythnos ddiwetha', gyda'r geiriad:

"Rydym ni, y rhai sy'n arwyddo, yn erbyn cynlluniau i roi codiad cyflog o 12% i brif weithredwr Cyngor Sir Dinbych, Mohammed Mehmet, ac rydym yn credu y dylai dderbyn cynnydd cyfatebol i'r hyn mae gweddill staff Cyngor Sir Ddinbych yn ei gael."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol