Cyngor Ceredigion: Tro pedol ar gau llyfrgell Tregaron
- Cyhoeddwyd

Mae trigolion Tregaron yn hawlio buddugoliaeth yn eu hymgyrch i gadw llyfrgell yn y dref.
Roedd Cyngor Ceredigion wedi penderfynu cau llyfrgell Tregaron fel rhan o arbedion gwerth £9.6m dros y flwyddyn ariannol nesaf.
Roedd y llyfrgell yn agor am chwe diwrnod yr wythnos, ond bwriad y cyngor oedd gyrru llyfrgell symudol yno am dridiau yn unig.
Ond bellach mae cabinet yr awdurdod wedi gwneud tro-pedol ac wedi penderfynu cadw'r llyfrgell ar agor am dri diwrnod o'r wythnos.
Cyfarfod
Ym mis Ionawr daeth dros 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn y dref er mwyn canfod ffordd o gadw'r llyfrgell, sydd wedi ei lleoli yn ysgol uwchradd y dref.
Gofynnodd y trigolion i'r cyngor ganiatáu i lyfrgellydd gadw'r gwasanaeth ar agor am dair sesiwn dwy awr a hanner.
Dywedodd cynrychiolydd Tregaron ar Gyngor Ceredigion, Catherine Hughes: "Rydym wedi gallu cadw'r llyfrgell ar agor tair gwaith yr wythnos er bod y gwasanaeth wedi lleihau.
"Yn y dyfodol mi fyddwn yn ceisio ymestyn y gwasanaeth trwy ddefnyddio gwirfoddolwyr."
Mae hyn wedi digwydd yn barod yng Ngheinewydd. Fis diwethaf, diogelwyd dyfodol y llyfrgell yno am flwyddyn ar ôl i'r Cyngor gytuno i roi prydles yr adeilad i'r cyngor tref gyda rhent rhad.
Yn debyg i Dregaron roedd yr awdurdod wedi bwriadu cau llyfrgell Ceinewydd a gyrru llyfrgell symudol yno.
Yn dilyn deiseb a arwyddwyd gan 600 o bobl, daeth 25 bobl ymlaen oedd yn barod i wirfoddoli i helpu rhedeg y llyfrgell yno.
Roedd y toriadau yma, yn ogystal â lleihau rhifau llyfrgelloedd symudol o bump i bedwar a cholli dwy swydd i fod i arbed £146,000 y flwyddyn i'r awdurdod.
Cadarnhaodd Cyngor Ceredigion bydd y gwasanaeth llyfrgell yn parhau yn Nhregaron.
Straeon perthnasol
- 17 Mawrth 2014
- 21 Ionawr 2014